Yr hon a fu farw ymhen ychydig wythnosau ar ol genedigaeth ei bachgen
bychan cyntafanedig.
“CEWCH eto deimlo ’r heulwen
Yn gynnes ar eich grudd;
Cewch eto deimlo ’r awel
Am lawer hafaidd ddydd;
Peidiwch a son am farw,
Peidiwch a meddwl am
I’ch plentyn fyw heb glywed
Na’ nabod llais ei fam.
“Peidiwch a son am farw,
Daw eto haul ar fryn;
Ac iechyd ddaw i’ch codi
O’r hen gystuddiau hyn.
Yn wan ei llais atebodd,
Peidiwch a son am fyw!
’Rwy ’n rhoi fy machgen anwyl
I’ch gofal chwi a Duw.”
Gadawyd yr ystafell
Am ddim ond ennyd fach,
A chlywid llais yn sibrwd,—
“Fy anwyl fachgen bach!
Fy machgen, O! fy machgen!
O na b’ai ’th fam yn iach;
Fy nghyntaf, olaf blentyn,
Fy anwyl fachgen bach!
“Fy nghyfaill bychan _newydd_
’R wyf fi yn mynd i’r nef;
’R wy ’n myned at yr Iesu,
_Hen_ gyfaill ydyw Ef!”
Bu farw, ac hi wywodd
Fel blodyn ar y dail,
Gan ddyweyd,—“Fy machgen anwyl!”
Ac “Iesu!” bob yn ail.