Y BABAN DIWRNOD GED.

’R oedd swn magnelau yn y graig,

A swn tabyrddau ’n curo,

A chlywid trwst ofnadwy traed

Y Ffrancod wedi glanio,

A’r waedd i’r frwydr chwyddai ’n uwch,

Gan alw ’r dewr i daro;

Terfysgwyd y glannau

Gan rym y taranau

A ruent ar lan y môr.

I dai ’r tylodion rhuthrai gwŷr,

Gan ladd y diamddiffyn,

A flamiai palas hardd gerllaw

Gan dân o longau ’r gelyn;

Fe ffoai mamau gyda’u plant,

A chodai ’r claf mewn dychryn;

Ond ’r oedd yno ddynes,

A babi ’n ei mynwes,

Rhy waelaidd a gwan i ffoi.

Ei gŵr erfyniai wrth ei phen,—

“O cwyd! O cwyd! fy Eurfron!

Mae ’r march a’r cerbyd wrth y drws,

Tyrd iddo ar dy union!

Olwynwn ymaith fel y gwynt,—

Anwylyd, clyw ’r ergydion!

O Dduw, a ddaeth diwedd

Fy mab, fy etifedd?

Fy mhlentyn a anwyd ddoe!”

Atebai ’r wraig yn llesg ei llais,—

“Fy mhriod, clyw fy ngweddi,

O gad fi ar y gwely hwn,

Ond gad y baban imi;

Dos at y rheng i gadw ’th wlad,

Fe gadwaf finnau ’r babi.”

Y plentyn a hunai,

A’r tad a’i cusanai,

Ac yna fe ffodd i’r rheng.

’Roedd swn cleddyfau yn neshau,

Gwawchiadau ac ysgrechian;

A’r wraig weddiai ’n daer ar Dduw,

Gan edrych ar ei baban;

Ac yna holltwyd drws y tŷ

Gan filwyr oddi allan.

A hithau mewn dychryn

A wasgodd ei phlentyn

Yn nes at ei chalon wan.

Ar glicied drws ei ’stafell wag,

Hi welai fysedd llofrudd,

Ac ar y foment rhuthrodd haid,

Yn swn rhegfeydd eu gilydd;

A syllent fel gwylltfilod erch,

O amgylch ei gobennydd;

Ar wraig wan yn crynnu,

A ddaliodd i fyny

Ei babi bach diwrnod oed.

Atebwyd gweddi ’r ffyddiog fam,

A hi a’i mab achubwyd;

Mae hi yn awr ym mynwent werdd

Yr eglwys lle ’i priodwyd;

Ac erbyn heddyw mae y mab

Yn hen weinidog penllwyd,

Yn estyn ei freichiau

I ddangos y Meichiau,—

Y baban y anwyd i ni.

Ceiriog · 第 67 / 112 题