MYFI SY’N MAGU ’R BABAN.

[Cân mamaeth Gymreig wrth fagu Tywysog Seisnig cyntaf Cymru o “Cantata

Tywysog Cymru.”]

MYFI sy ’n magu ’r baban,

Myfi sy ’n siglo ’r cryd,

Myfi sy ’n hwian, hwian,

Ac yn hwian hwi o hyd.

Bu ’n crio bore heddyw,

O hanner y nos tan dri;

Ond fi sy ’n colli ’m cysgu,

Mae ’r gofal i gyd arnaf fi.

Myfi sy ’n magu ’r plentyn,

Bob bore, prydnawn a hwyr;

Y drafferth sydd ei ganlyn,

Fy hunan yn unig ŵyr.

Nis gŵyr ef air o Saesneg,

Nac un gair o’n hen hiaith ni,—

I ddysgu ’r twysog bychan,

Mae ’r gofal i gyd arnaf fi.

Ond os caf fi ei fagu,

I fyned yn llencyn iach;

Caiff iaith brenhinoedd Cymru

Fod rhwng ei ddwy wefus fach.

A phan ddaw ef yn frenin,

Os na wnaiff fy nghofio fi,

O! cofied wlad y cenin,

Y wlad sydd mor anwyl i ini.

Ceiriog · 第 57 / 112 题