I GADW ’R HEN WLAD MEWN ANRHYDEDD.

I GADW ’R hen wlad mewn anrhydedd,

A’r cenin yn fyw a difêth;

Mae rhai yn prydyddu ’n ddiddiwedd,

Ond dyma fy marn am y peth,—

Mwy gwerthfawr nag awen y beirddion,

Neu’r dalent ddisgleiriaf a roed,

Yw tafod y bachgen bach gwirion,

Na ddwedodd anwiredd erioed.

_Cydgan_: Rhown bopeth sydd hardd ac anfarwol,

Mewn miwsig, barddoniaeth, a cherdd,

I’r geirwir, a’r gonest, a’r gwrol,

Sy’n cadw’r geninen yn werdd.

Mi adwaen gribddeiliwr ariannog,

Sy’n deall bob tric i wneud pres;

Ond anhawdd anichon cael ceiniog

O’i boced at ddim a fo lês.

Pan allan, os a yn ei gerbyd,

Pan gartref os tyn yn ei gloch;

Mae ’n well i ni’r gonest a’r diwyd

Pe na bai yn werth dimeu goch.

Ym mhell y bo ’r bobol sy’n grwgnach,

Yn erbyn caledrwydd y byd,

Y rhenti a’r prisiau a’r fasnach,

Tra plethant eu dwylaw ynghyd.

Nid felly y byddai ’r hen Gymry,

Ac os yw dy waed ti yn bur,

’R wyt yn edrych yn wrol i fyny

Ac yn fachgen sy’n gweithio fel dur.

Ceiriog · 第 56 / 112 题