LLANCES Y DYFFRYN.

ALAW,—_Llances y Dyffryn_.

LLANCES y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn,

Llanwodd lawenydd fy nghalon yn llawn;

Glanach yw ’r defaid ar ochr y bryn,

Gwynnach yw ’r alarch ar ddwfr y llyn:

Clysach yw ’r blodau, a glasach yw ’r coed;

Harddach, prydferthach y byd nag erioed.

Gwnaed fi yn ddedwydd foreuddydd a nawn,

Llances y Dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.

Llances y Dyffryn oleuodd y fro,

Gloewach yw ’r afon a glanach yw ’r gro;

Purach fy meddwl a hoewach fy nhroed,

Hoenach yr awen na bu erioed.

Hoffach yw ’r Dyffryn a llonnach pob lle,

Mwynach yw ’r awel o’r dwyrain a’r dê;

Trom fu fy nghalon, ond ’rwan distawn,

Llances y dyffryn wnaeth bopeth yn iawn.

Ceiriog · 第 41 / 112 题