ALAW—_Trot y Gaseg_.
RHAID imi basio heno
Tŷ geneth lana’r fro,
Dymunwn alw yno,
Ond ni wnaiff hynny ’r tro.
Tyrd ti fy merlen hoew,
I fyny ’r dyffryn acw;
Da gwyddost am y tŷ
Y trig fy ngeneth gu—
Dynesu mae yr afon,
Cynesu mae fy nghalon,
Wrth basio ’r Dolydd Gleision,
Ar gefn fy merlen ddu.
Mae miwsig hen alawon,
Yn swn dy bedwar troed:
Rwy ’n croesi tros yr afon
Mi welaf lwyn o goed.
Tra ’r afon ar y graian,
Yn hwian iddi’ hunan,
Mae seren Gwener gu
Yn crynnu uwch y tŷ,
A’m calon wirion innau
Yn crynnu am y goreu.
Wrth fynd ar loergan oleu
Ar gefn fy merlen ddu.
Yn y coedwigoedd agos,
Fy merlen lo’wddu lefn,
Y clywais lais yr eos
Wrth deithio ar dy gefn.
Pan oeddit ti yn trotian,
Yr oeddwn innau ’n dotian,
Wrth wrando ’r eos gu
Ac edrych ar y tŷ.
Pan dderfydd y gostegion,
Bydd Merch y Dolydd Gleision,
Mewn cannaid ddillad gwynion,
Ar gefn fy merlen ddu.