AR GANOL DYDD.

(Er cof am Mrs. James, Ynyseidiol).

"Yr hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth."--MARC xiv. 8.

Ar ganol dydd ei bywyd cu,

Ar ganol llwybr crefydd,

O ganol serch cyfeillion cu,

O ganol cartref dedwydd;

Ynghanol defnyddioldeb llawn,

Ar ganol gwaith ei bywyd,

Hi ga'dd ei hun yn ddedwydd iawn

Ynghanol cylch y gwynfyd.

Nid oedd ei thaith ar hyd y glyn,--

Y glyn rhwng byd a bywyd,

Ca'dd groesi'r lleoedd tywyll hyn

Heb brofi fawr o'u hadfyd;

Y t'w'llwch sy'n y glyn, nid yw

I'r sawl mae'r Iesu'n garu,

Ond cysgod aden dyner Duw

Yn dod i'w diogelu.

Na choder colofn ar ei bedd,--

Na cherfier gair i'w chofio,

Bydd dagrau'r eglwys drist ei gwedd

Yn ddisglair byth fan honno;

Ac ar y bedd yn alar byw,

Y tlawd ollynga berlau,

Mor ddisglair, fel y cenfydd Duw

Ei hunan yn y dagrau.

Ion. 20, 1873.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 95 / 111 题