Brysiwch, fellt, ar hyd y gwifrau, Saethwch dros y bryn a'r ddol, Treiddiwch lawr i'r erch ddyfnderau, Dewch a'r newydd i ni'n ol, A oes gobaith i'r gwroniaid Gipio yspail angau du, A rhoi goleu i'r trueiniaid O glaer lusern gobaith cu.