Y CHWARELWR.

Chwarelwr siriol ydwyf fi

Yn byw ar ddant y graig,

I dynnu dail o'i chalon hi

I gadw ty a gwraig;

Os rhuo clod mae'r fflamau tan

I'r glowr am y glo,

Dadganu clod chwarelwr glan

Mae'r cenllysg ar y to.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 84 / 111 题