Y DDRAENEN WEN.

Eisteddais dan y ddraenen wen

Pan chwarddai bywyd Ebrill cu

Mewn mil o ddail o gylch fy mhen,

A myrdd o friall o bob tu;

Eisteddai William gyda'i Wen,

Ac Ebrill yn ei ruddiau gwiw,

Tra canai'r fwyalch uwch ein pen

Ei chalon yn ei chan i Dduw;

Rhoi William friall ar fy mron,

A modrwy aur yn llaw ei Wen;

Mi gofiaf byth yr adeg hon

Wrth eistedd dan y ddraenen wen.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 50 / 111 题