Fel un sy'n teimlo gwaed Cymreig Yn berwi yn fy mynwes, 'Rwy'n methu'n glir a chael boddhad Wrth wrando ar yr hanes; Mae gwaed brenhinol Brython hyf Yn curo'n mynwes Owen, A dylid cadw hwn mor bur Ag awyr Ynys Brydain.