TYSTEBAU.

Fu 'rioed y fath oes yn yr oesau,

A'r oes 'rydym ynddi yn byw,

Fe'i gelwir yn oes y peiriannau,

Ac oes rhoddi'r mellt dan y sgriw;

Mae'n oes i roi tanllyd gerbydau

I chwiban dan fynydd a bryn,

'Rwy'n meddwl mai oes y tystebau

Y dylid ei galw er hyn.

Os bydd dyn yn myned o'i ardal,

Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr,

Neu'n aros,--rhaid gwneud un llawn cystal

I rwymo ei draed wrth y llawr;

Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi,

Rhoir tysteb i'r du ac i'r gwyn,

Ceir tysteb am gysgu'n y gwely,

Os pery tystebau fel hyn.

Gwneud tysteb o nod genedlaethol

A wneir i bob crwtyn yn awr,

Argreffir colofnau i'w ganmol,

A'i godi'n anferthol o fawr;

Mae'r gair cenedlaethol yn barod,--

A helpo y genedl, a'r gair,

Er mwyn cael cyfodi corachod

A llenwi eu llogell ag aur.

Mae mul yn hen felin Llanodol,

'Rwy'n cynnyg cael tysteb i hwn,

A honno'n un wir genedlaethol,

Am gario ar ei gefn lawer pwn;

Paham na chai dysteb ragorol

I'w rwystro am byth gadw nad?

Mae'r mul yn hen ful cenedlaethol,

A haedda ei weld gan y wlad.

Mae'n cario yr yd mor ddigyffro

Dros fynydd, a dyffryn, a dol,

Ac wedyn caiff eisin i'w ginio

I aros i'r blawd fynd yn ol;

Rhag c'wilydd i genedl y Cymry

Am fod eu syniadau mor gul,

Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri

I gychwyn y dysteb i'r mul.

Mae'i glustiau'n mynd lawr dros ei lygaid,

O! clywch ef yn codi ei gri,

Mae'n g'wilydd fod tad y ffyddloniaid

Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i;

Oferedd im' fyddai ei ganmol,

Mae gweithio i'w wlad bron a'i ladd,

Rhowch dysteb i'r mul cenedlaethol,--

Nid ef fydd y cyntaf a'i ca'dd.

Ebrill 29, '76.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 31 / 111 题