FFUGENWAU.

Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad,

Rhai'n berygl ryfeddol a hir eu parhad;

Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro,

A chlefyd excursions a chanu Soh, Doh;

Ond clefyd ffugenwau yw'r gwaethaf a gaed,

Mae'n drymach na chlefyd y genau a'r traed.

Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn,

Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn,

A llewod ac arthod, eryrod a brain,

Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain.

Os digwydd i hogyn wneud pennill o gan,

A'i anfon i'r print ac oddiyno i'r tan,

Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i'r nen,

A'i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen;

Rhaid ei gipio i'r orsedd pe bai yn ei glocs,

A'i blastro ag enw fel label ar focs.

Mae Eos y Weirglodd, &c.

Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o don,

Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fon,

Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir,

Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir;

'Rwy'n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad,

A'i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad.

Mae Eos y Weirglodd, &c.

Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae son,

Dweyd enw a ffugenw a'r surname yn y bon,

Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys,

A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys,

A chyda'r rhai yna daw Morris--

Llanfairmathafarn eithaf

Rhosllanerchrugog,

Llanrhaiadr Mochnant,

Hugh,

A William Carey Williams a Dafydd--

Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll

Dysilio gogo goch

Pugh.

Ebrill 29, '76.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 29 / 111 题