Y DERYN YSGAFNAF YN UCHAF.

Mae ambell aderyn lled fychan,

Mae ambell aderyn lled fawr,

Mae rhai yn ehedeg yn uchel,

Ac ereill yn ymyl y llawr;

Ceir rhai ddigon ysgafn i hedeg

I ymyl y lleuad mor llon,

A'r lleill sydd yn llawer rhy drymion

I hedeg 'run dwylath o'r bron;

Ond dyma'r gwirionedd yn hanes y byd,

Mai'r deryn ysgafnaf yw'r uchaf o hyd.

Os gwelwch ysgogyn go wyntog

Yn chwyddo'n anferthol o fawr,

O'r braidd y mae gan ei ysgafnder

Yn cyffwrdd ei draed yn y llawr;

'Does ryfedd ei fod yn ymgodi

I fyny fel pluen i'r nen,

'Does ganddo ddim pwysau'n ei boced,

Na gronyn o bwysau'n ei ben.

Ond dyma'r gwirionedd, &c.

Ceir ambell i eneth benchwiban

Yn gwerthu gwyleidd-dra a moes,

Ysgafnder yw nodwedd ei meddwl,

Ysgafnder yw nodwedd ei hoes;

Nid rhaid iddi bluo ei bonnet,

Na llenwi ei gwallt gyda charth,

Mae digon o bluf yn ei henaid

I'w chario i amharch a gwarth.

Ond dyma'r gwirionedd, &c.

Edrychwch i'r ffair ac i'r farchnad,

Ysgafnder sydd yno'n mhob man,

Ynghanol brefiadau y lloiau

Mae'n codi yr uchaf i'r lan;

Mae Satan yn pluo adenydd

Rhai dynion i'w codi am awr;

Ond cofiwch mai eu codi mae Satan

Er mwyn cael eu taro i lawr.

Ond dyma'r gwirionedd, &c.

Medi 24, '75.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 21 / 111 题