TARO YR HOEL AR EI PHEN.

Mae ambell i saer gyda'i forthwyl

Yn taro yr hoelen yn gam,

Ac ambell i un sydd mor drwsgwl

A phe bai'n rhoi'r morthwyl i'w fam;

Ond hyn sydd yn iawn a dymunol,

Pan godi dy forthwyl i'r nen,

Gofala wrth daro, 'n wastadol,

I daro yr hoel ar ei phen.

Mae llawer areithiwr go ddoniol,

'Nol dodi y testyn i lawr,

Yn dwedyd pob peth amgylchiadol,

Heb son am ei destyn am awr;

Siarada mor ddiflas a phlentyn,

A thry wyn ei lygaid i'r nen,

Paham nad ai'r dyn at ei destyn,

A tharo yr hoel ar ei phen?

Aeth bardd i wneud pryddest anghomon,

A'r testyn oedd ci Ty'n y March,

Dechreuodd yng nghwymp yr angylion,

A'r cwn aeth at Noah i'r arch;

'Rol canu pum mil o linellau,

Gwnaeth bennill i'r ci yn y pen;

Paham na bae beirdd y pryddestau

Yn taro yr hoel ar ei phen?

Aeth llencyn am dro gyda'i gariad,

A soniai mor braf oedd yr hin,

A'i bod hi mor bethma yn wastad

Os na fyddai'r tywydd yn flin;

Pam na fuasai'r llelo anghelfydd

Yn gofyn addewid gan Gwen,

A siarad am fodrwy lle'r tywydd,

A tharo yr hoel ar ei phen?

Ebrill 19, '75.

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 17 / 111 题