CHWI FEIBION DEWRION.

(Geiriau i'r "Marseillaise.")

Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau,

Clywch, clywch yr udgorn croch o draw,

Llywelyn sydd yn chwifio'i ddreigiau

A'i gleddyf gloew yn ei law;

Mae dagrau baban gwan a'r weddw

Yn gwaeddi'n uwch na chorn y gad,

Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad

O dan ei chlwyf ymron a marw;

Ymlaen! ymlaen i'r gad,

Dadweinied pawb ei gledd,

Ni awn, ni awn dros freiniau'n gwlad

I ryddid neu i'r bedd!

Ystormydd rhyfel sy'n ymruo,

Yr holl awyrgylch sydd yn ddu,

Mae cledd dialedd wedi deffro,

Gwae, gwae i'r holl elynol lu;

Ni allwn edrych ar gelanedd

Estroniaid yn arteithio'n gwlad,

Gan ddwyn aneddau'n mam a'n tad

A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd;

Ymlaen!

Deffroed ysbryd hyf ein teidiau

I danio mynwes ddewr pob dyn,

Mae'r ddraig yn edrych lawr o'r bryniau

Gan ddisgwyl gweled Cymru'n un;

Bu'n gwlad am oesau'n araf waedu,

Ond sych dy ddagrau, Walia Wen,

Mae seren gobaith uwch dy ben,

Daeth cledd Llywelyn i'th waredu.

Ymlaen!

Gwaith Mynyddog. Cyfrol II · 第 14 / 111 题