YR oedd wedi taro chwech o’r gloch y bore er ys pymtheng munud neu well
pan garlamai ein merlen hoew drwy heol hen Hwlffordd, gan deimlo nad oedd
mwy o bwysau yn ein cerbyd ysgafn na phe buasai ddim ond bwcwl addurnedig
i gadw’r awenau yn eu lle. Naw o’r gloch y noson cynt, yr oeddwn wedi
gadael Llundain a’i chyffro, gan ddisgwyl gweled y bore’n torri ar
fynyddoedd Cymru, a chan wybod fod rhyw dawelwch yn gorffwys ar y
mynyddoedd hynny, tawelwch iachaol, heddwch a sudda fel balm i enaid y
neb a hir edrycho arnynt. Heddwch y mynyddoedd,—dyna feddyginiaeth
meddwl pryderus, a dyna adnewydda y corff curiedig fel yr eryr. Aml y
teithia enaid Cymro i fynyddoedd ei wlad.
Ar hyd y daith nos bum yn breuddwydio’n anesmwyth yn y tren.
Breuddwydiwn ein bod yn chwyrnellu drwy ddinasoedd distaw
anghyfannedd,—yr oedd Caerloew wedi ei hanrheithio gan bla, a’r glaswellt
yn tyfu ar hyd ei hystrydoedd; yr oedd Casnewydd dan y môr, a dim ond
rhyw drumau aur, fel crib, yn codi o’r tonnau oer brigwynion; yr oedd
adfeilion anferth Caer Dydd yn goedwig o eiddew a mieri, a’r môr wedi
cilio oddiwrth ei glan. Ond yr oedd edyn aur y bore ar Lyn Nedd ac ar
fau Abertawe, er mai prin y medrai’r dydd fy argyhoeddi nad anialwch du
oeddwn wedi adael ar fy ol. O wlad y nos i wlad y bore yr oedd fy
nhaith.
Nid oedd gennyf ond dwy noswaith a diwrnod i mi fy hun. Rhaid oedd
treulio’r ddwy noswaith yn y tren, a mwyn oedd meddwl y cawn dreulio’r
diwrnod yn Nyfed, a mynd ar bererindod i Dyddewi. Bu pererinion
dirifedi’n cyrchu ar hyd y ffordd hon, yn hen oesoedd cred, tua Thyddewi;
oherwydd yr oedd mynd yno deirwaith mor haeddiannol a phe’r eid dros dir
a môr i Rufain ei hun,—ceid yr un gollyngdod am bechod, yr un iechyd
corff, yr un heddwch meddwl. Ac i’r neb deithiodd Ddyfed hyd Dyddewi yn
nyddiau cynnes hirion esmwyth yr haf, nid anhygoel yw’r traddodiad nad
oes afiechyd na gwenwyn na phechod yn trigo yn naear sanctaidd Dewi.
Gwell i mi gyfaddef ar unwaith mai nid marweiddio’r cnawd oedd amcan fy
mhererindod, onide buaswn wedi mynd yn y gauaf, a buaswn wedi cerdded
dros yr holl fryniau tonnog sy’n ymestyn rhwng Hwlffordd a Thyddewi. Yr
oeddwn wedi deall y byddai un o geffylau goreu’r wlad, ac un o’r gyrrwyr
goreu, yn fy aros yng ngorsaf Hwlffordd. Bu’n edifar gennyf droion yn
ystod y dydd na fuaswn wedi cerdded; ond, o ran hynny, gorfod i mi
gerdded llawer, ac nid o’m bodd.
A dyma ni’n carlamu drwy stryd Hwlffordd. Mor hyfryd ydyw’r cerbyd
ysgafn ar ol y tren trwm, ac mor iach ydyw awel y bore dros y bryniau
gleision acw. Y union o’n blaenau ymgyfyd castell Hwlffordd, gan wgu i
lawr arnom, ac ar yr hen dref ddyddorol yr ydym yn cyflymu drwyddi.
Toisom ar y dde wrth droed craig y castell, ac aethom drwy ystryd gul ar
garlam wyllt, er perygl nid ychydig i’r plant troednoeth coesnoeth oedd
yn ymhyfrydu yn y dŵr ac yn y llaid sydd ar hyd ochrau ac ar ganol y
Stryd Dywell. Dywedai’r gyrrwr mai ym Mhenfro Seisnig y mae Hwlffordd,
ac na siaredir gair o Gymraeg ynddi. Gwelwn yn amlwg oddiwrth enwau’r
siopwyr fod llawer cenedl yn trigo yn y dref. Bleddyn Gymreig mewn
heddwch â Havard Normanaidd.
Sais oedd y gyrrwr, a charn Sais. Ni wyddai ddim am Arthur, ni chlywodd
son am William Havard, ni wyddai ddim am hanes y dref. Sur ac anfoddog
oedd ei drem, ac nid oedd ei iaith mor goeth ag iaith ambell un, oherwydd
yr oedd yn rhy hoff o son am drigolion y tywyllwch wrth eu henwau, a
mynych gyfeiriad a wnai at ei enaid byw. Ceffylau, cwn, a da pluog oedd
hoff destyn ei ymddiddanion; ond am gyfarfodydd pregethu, neu ysgolion y
fro, neu ei cholegau, gwyddai lai na dim. Yr oedd ganddo ddaliadau
gwleidyddol, ac nid oedd arno gywilydd eu harddel. Yr oedd yn ddyn
gonest, yn eithaf caredig, ac yn barod iawn i dystio mai gwir bob gair
oedd yr holl ystraeon adroddai.
Dyma ni ar ben y rhiw cyntaf, a gwlad Dyfed hen wlad yr Hud, gwlad chwedl
am bagan a sant, yn ymestyn o’n blaenau. Golwg oer a thrist sydd arni,
gwlad o fryniau penisel, yn ymestyn fel tonnau tua gorwel y gorllewin,
heb fôr yn y golwg, heb fynydd. Ffermwyr, moch, gwyddau, peiriannau
lladd gwair,—edrychent am y pruddaf. A thraw, yn hanner cylch o’n
blaenau, yr oedd cymylau gwgus yn llawn o wlaw oer. Ceisiai’r gyrrwr fod
yn llawen, ond yr oedd amheuaeth yn ei lais wrth iddo ddweyd,—“Cloudy
mornin’, fine day, sir.” Gyda hynny disgynnodd y gwlaw arnom fel pe’i
tywelltid o grwc, a chlywn y defnynnau’n rhedeg i lawr rhwng fy nghrys
a’m croen. Anodd canu yn y gwlaw, ac eithaf digalon oeddwn innau.
Treiai’r gyrrwr fy nghysuro, a thynnu fy sylw at rywbeth oddiwrth fy
sefyllfa anghysurus ac anwydog. Danghosodd ddyffryn bychan i mi, a
dywedodd gyda blas ei fod yn lle ardderchog am lwynogod a dyfrgwn.
Dywedais innau nad oeddwn yn cymeryd y dyddordeb lleiaf mewn llwynogod na
dyfrgwn; ac nad oedd dim casach gennyf na chwn hela, ond y bobl fydd yn
eu dilyn. Daethom at afonig fechan dryloew, oedd yn rhedeg drog raian
glân, dan lwyni o frwyn a llysiau’r gwenyn; ac wrth fy ngweled yn edrych
ar y blodau, dywedodd y gyrrwr fod y nant yn lle ardderchog i bysgota
brithylliaid, a gofynnodd i mi a oeddwn yn ddaliwr da. Dywedais fy mod
wedi dal un brithyll unwaith, a fod yn edifar gennyf byth; ond ni fedrai
ddeall hynny. Yr oedd y gwlaw yn dal i ddisgyn, a’m calon innau’n drom.
A dechreuodd y gyrrwr ganu, gan wneyd pob swn rhwng swn hogi llif a swn
melin goffi. Gofynnodd i mi toc a oeddwn yn hoffi canu, a dywedais innau
nad oeddwn wedi clywed canu er ys rai dyddiau. Yr oeddwn yn ddrwg fy
hwyl, ac ni phetrusodd y gyrrwr ddweyd gan ba fod y blinid fi.
Ond, gyda hynny, peidiodd y gwlaw, a gwenodd yr haul ar Ddyfed.
Siriolodd y ffurfafen, a gwenodd Dyfed arni drwy ei dagrau. Y mae gwên
yn disgyn ar rudd brenhines y weirglodd, dacw fynyddoedd a chastell a’r
môr, a gallasech glywed dau wlyb yn bloeddio canu dros yr holl wlad.
“Dydech chi ddim llawer o ganwr,” ebai’r gyrrwr, ar ddiwedd y gân. “Nag
wyf,” ebe finnau, “nid ydych chwithau ddim chwaith, y mae fy llais i wedi
ei golli o hir ddistawrwydd, a’ch llais chwithau wedi ei andwyo gan ormod
siarad.”
Castell Roche oedd y castell a welem. Un tŵr sydd o hono, a saif hwn ar
drwyn craig sy’n ymwthio i fyny drwy’r garreg galchaidd. Gellir ei weled
o bell o bob ochr; y mae’n ddu ac uchel a balch fel gorthrwm, yn gwgu ar
holl ddyffrynoedd y wlad hon. Wedi i ni ei adael dywedai’r gyrrwr ein
bod yn nesu at y terfyn rhwng Dyfed y Saeson a Dyfed y Cymry, a chefais
dipyn o hanes y ddwy genedl ganddo. Nid oedd gwleidyddiaeth Cymry Penfro
wrth ei fodd, a gyrrai’n enbyd ar y personiaid am na ddysgent well credo
iddynt. Ond dywedai eu bod yn gynnil, yn llwyddiannus, ac yn bobl iach a
chryf. Ond anffawd fawr oedd eu bod yn siarad Cymraeg, ac yntau’n deall
yr un gair.
Tra’r oedd y gyrrwr yn traethu ei ddoethineb fel hyn, yr oedd golygfa
ogoneddus o’n blaenau,—creigiau’n taflu allan o’r ddaear ar y dde i ni, a
chastell Roche o hyd; a’r môr, gyda’i benrhynnoedd a’i ynysoedd, ar ein
chwith ac o’n blaenau. Cyn hir, disgynasom ar hyd y rhiw at dafarn
Niwgel. Y mae hon ar lan y môr; ac yn union ar y terfyn, fe ddywedir,
rhwng y wlad Gymraeg a’r wlad Saesneg. Yr oeddym ninnau yma ar hanner
ein ffordd, ac yr oedd yn rhaid i’r ferlen a’r gyrrwr wrth lymaid. Y
mae’r dafarn mewn lle unig, mewn pantle ar y lan, ac ymron yn anhygyrch
yn y gauaf, gallwn feddwl. Ond y mae llawer o gyrchu yno yn yr haf. Pe
buaswn yno drannoeth, buaswn yno ar y dydd dawnsio, sef dydd Iau. Y mae
traeth o dywod melyn caled gerllaw’r dafarn, a chyrcha bechgyn a genethod
yr ardaloedd cylchynol yno ar nawniau Iau i ddawnsio, a daw lluoedd mewn
cychod o’r lan gyferbyn i’w cyfarfod.
Wrth i mi ddringo ar hyd y ffordd serth ar ol y ferlen o bantle’r dafarn,
gwelwn y traeth prydferth, ac ni welais erioed gymaint cynulleidfa o
wylanod y môr a’r dyrfa o honynt oedd yn edrych yn astud ar y llanw’n
mynd allan. O hyn i Dyddewi yr oedd y wlad yn dlysach a’r bobl yn fwy
dyddorol. Ochrau rhedynog oedd yno, a gwartheg duon,—yn codi hiraeth am
y llefrith melus hwnnw na cheir ond gan wartheg sy’n pori ochrau
mynyddoedd. Brethyn cartref oedd gwisg y bobl, neu rywbeth ar ei
lun,—brethyn da, ffedog stwff, a bectwn yspotiog. Holent fi’n awchus, a
methent wybod oddiwrth fy iaith o ba ran o Gymru y deuwn. Gwahoddent
fi’n groesawus i’w tai, ond yr oedd yn rhaid i mi gyfeirio eu sylw at y
gyrrwr a’i geffyl yn llafurus ddringo’r gorifyny o’m blaen, ac ymron
cyrraedd pen y rhiw. Byddai raid i minnau redeg, braidd cyn dechreu’r
ymddiddan, i ddal y cerbyd ac i neidio iddo, a rhedai’r ferlen yn chwim,
a’i mwng yn yr awel, hyd nes y deuem at riw drachefn.
Pan ddisgynasom i Solfach, unig sylw’r gyrrwr am y bobl oedd,—“awful
radicals.” Hafan fach ddymunol sydd yma, ac y mae gwedd gyfoethog a
llewyrchus ar bob peth. Tra’r oedd y gyrrwr a’i ferlen yn goblygu i
fyny’r rhiw, cefais amser i ysgwrsio â’r fforddolion ddigwyddent fy
nghyfarfod. Hoffwn eu Cymraeg yn fawr, yr oedd mor syml a melodaidd; ac
yr oedd rhyw ledneisrwydd boneddigaidd ynddynt yn gymysg ag awydd aniwall
i siarad.
Ond y mae ein gwynebau ar Dyddewi o’r diwedd. Nid oes bosibl peidio
cofio ei hen enw wrth edrych arni,—“Gwlad yr Hud.” Y niwl teneu, pellder
diderfyn y môr, y creigiau ysgythrog acw,—dyma deilwng gartref i ddefodau
erchyll rhyw hen grefydd baganaidd, dyma wlad yr hoffai ysbryd aflonydd
rhyw hen forleidr crwydrol aros am ennyd ynddi, ar ryw benrhyn neu ynys
sydd eto’n dwyn ei enw. Gwlad hyd a lledrith ydyw, wedi ei gwneyd gan
Ddewi yn wlad goleuni’r efengyl. Ond y mae ei swyn a’i phrydferthwch fel
erioed.
Arhosodd y cerbyd yng nghanol Tyddewi, a disgynnais i westy cysurus a
phrydferth. Wedi cael tamaid,—yr oedd erbyn hyn rhwng naw a deg o’r
gloch y boreu,—cerddais ymlaen i gyfeiriad yr eglwys gadeiriol. Ni welir
hi nes dod i’w hymyl, oherwydd mewn pantle y mae. Yna ymegyr ei
hardderchowgrwydd o flaen y llygaid synedig. Er fod ol adgyweirio arni,
meddyliwn am anialwch mawreddog a phrydferth. Yr oedd rhyw geinder a
heddwch rhyfedd wedi gorffwys ar yr hen fangre hanesiol anwyl. Draw
heibio’r eglwys y mae palas yr esgob yn adfeilion. Ond na feddylier ei
fod yn hagr, er ei fod yn adfeiliedig. Y mae llaw amser wedi rhoddi
prydferthwch digymar arno. Y ffenestr gron, y muriau hirion, y llwydni
henafol, y wisg iorwg,—ym mha le y ceir adfeilion mor gain mewn glyn mor
brydferth?
Rhed aber dryloew o adfeilion y palas, neu o ryw ffynnon rinweddol sydd
ynddynt, ac ymdroella dan furmur, fel genethig yn mynd adre o’r capel,
drwy’r dyffryn bach tlws tua’r môr. Nid rhosynau na blodau gardd sy’n
tyfu yno, ond blodau gwylltion Cymru,—llysiau’r mel a chwilys yr eithin,
blodau’r grug a hesg, eithin a rhedyn Mair. Ac y mae’r dyffryn yn
ddarlun o brydferthwch a sirioldeb iechyd. A meddyliwn y gellid ddweyd
am y blodau eiriau Iolo Goch am offeiriaid Dewi,—
“Engylion nef yng nglan nant.”
Yn y pantle hwn, hwyrach, y cododd Dewi Sant ei babell pan ddaeth yn
genhadwr i bregethu’r efengyl i baganiaid Dyfed. Ar lan yr aber dlos
dryloew, sy’n murmur mor ddedwydd ag erioed drwy’r adfeilion, y bu Dewi’n
cydweddio â’i ddisgyblion am i Grist gael holl Gymru’n eiddo iddo. Ac
ychydig feddyliai’r sant yr adeg honno, y mae’n bur sicr, y doi
brenhinoedd ar bererindod at ei fedd ac yr edrychid arno fel archesgob
holl Gymru. Bum neu chwe chan mlynedd ar ol ei farw, pan oedd ffarf yr
eglwys Cristionogol yng Nghymru wedi newid yn ddirfawr, ceisiodd Gerald
Gymro brofi fod Eglwys Cymru wedi bod yn un, ac yn anibynnol ar Eglwys
Loegr, dan archesgob Tyddewi, olynydd Dewi Sant; a hir y brwydrodd i
ailennill i Eglwys Cymru ei hanibyniaeth hwn. Wedi darostwng esgobaethau
Cymru dan lywodraeth archesgob Seisnig, ac wedi darostwng Cymru i frenin
y Saeson, aeth Tyddewi yn anwylach i’r Cymry o hyd. Pan gododd Glyn Dŵr
ei faner, yr oedd yn meddwl am wneyd Tyddewi yn archesgobaeth Cymru, a
phrydferth iawn yw darluniad ei fardd Iolo Goch o’r fangre hyfryd. Lecyn
prydferth a thawel, y mae gwŷr goreu Cymru wedi bod yn hiraethu am yr
iechyd a’r tawelwch geir ynnot. Ynnot ti y gorwedd Dewi Sant a Gerald
Gymro a William Morris. A dyma finnau bererin wedi cael edrych ar dy
degwch, ar dy draeth euraidd ar dy ffynnon loew, ac ar dy flodau
gwylltion.