Dyma sydd ar fedd Bardd Treflys,—

Gu ŵr, rhawg erys ar go’i ragoriaeth,

Cywirdeg ydoedd, caredig odiaeth;

O Seion o’i ol cyfyd swn alaeth,

Am ei llawn noddwr trwm yw Llenyddiaeth,

Am wawr hoffrudd, am air ffraeth—Bardd Treflys

Drwy Eifion erys diderfyn hiraeth.

Y mae’r olygfa o fynwent Treflys yn ogoneddus. Y mae mynyddoedd Lleyn,

Arfon, a Meirionnydd yn gylch am dani ac y mae un bwlch yn y cylch, a môr

glas pell sydd yn y bwlch hwnnw. Buom yn eistedd ar y llethr, ar gae

adlodd, i synnu at yr olygfa, ac ni cheisiaf fi ei darlunio. Daeth dyn

heibio, a danghosodd dalcen y Garreg Wen, draw ymhell, dros ddyffryn a

gwastadedd.

Yr oedd y dydd yn mynd, a’n ffordd ato’n hir. Aethom i lawr gore gallom

hyd y caeau serth i’r Morfa Bychan, lle agored ystormus, gydag ychydig o

ddefaid yn blewyna hyd dwmpathau grugog dyfai yma ac acw yn y tywod. Ond

dipyn oddiwrth y lan, yr oedd caeau gwastad fel bwrdd, dan wenith tonnog.

Wedi taith flin gadawsom y môr, a daethom at lyn ar ochr y ffordd, a

lili’r dŵr ar ei ymylon. Oddiwrth y llyn arweiniai ffordd dywodlyd i

fyny at dy gwyn ar y fron. Dringasom i fyny, heibio i ffynnon o

ddyfroedd clir. Daethom at gefn y tŷ, ac yr oedd geneth fach yn cychwyn

i hel y gwartheg.

“Ai hwn ydi’r Garreg Wen?”

“Ie, mae meistres yn y tŷ.”

Gyda’r gair daeth gwraig ieuanc i’r drws, a dywedodd fod croeso ini weld

y tŷ. Gwelodd fod yr ieuengaf o honom wedi blino. Daethom yn ffryndiau

mawr, ac ni chawsom fwy o groeso yn unlle erioed. Yr oedd y gwartheg yn

y fuches, ond cawsom de dan gamp. Yna cawsom weled holl ystafelloedd

cartref y telynor. Hen amaethdy clyd ydyw’r Garreg Wen. Tŷ hir ydyw,

a’i dalcen i’r graig, yn un uchder llofft. Y mae adeiladau o’i gwmpas

bron ym mhob cyfeiriad, a gerddi fel pe ar silffoedd craig, a choed

ffrwythau. Oddiamgylch tyf gwynwydd a phys llygod a phob blodeuyn

gwyllt. A thraw wrth gefn y tŷ y mae craig,—hwyrach mai hon ydyw’r

Garreg Wen,—yn cysgodi’r tŷ rhag gwynt yr ystormydd. Yr oeddwn wedi

clywed mai wrth garreg ar ben y mynydd y cyfansoddodd Dafydd “Godiad yr

Ehedydd.” Dywedwyd wrth enethig am ddod gyda fi i ben y caeau i ddangos

y garreg. Yr oedd yr olygfa’n ehangu o hyd wrth i ni ddringo o gae i

gae, a dyma ddiwedd ysgwrs fu rhwng yr enethig a minne,—

“Fedri di ganu?”

“Medra.”

“Fedri di ganu ‘Dafydd y Garreg Wen’ i mi? Neu ‘Godiad yr Ehedydd’?”

Edrychodd y plentyn yn syn arnaf.

“Wyt ti ddim yn dysgu canu yn yr ysgol?”

“Ydw.”

“Wyt ti’n dysgu canu Cymraeg?”

“O nag ydw!”

“A ddysgodd neb erioed i ti ganu alawon Dafydd y Garreg Wen, a thithau’n

byw yn yr un wlad a fo?”

“Naddo.”

“Be fedri di ganu?”

“‘Little Ship’ a ‘Gentle Spring.’”

Yr un dystiolaeth brudd wyf yn gael ymhob man yng Nghymru. Mae cartref

enwog yn ymyl y plentyn,—lle cyfieithwyd Gair Duw i’w iaith, lle rhoddwyd

ar gân ryw wirionedd wareiddiodd ei gyndadau, lle daliwyd rhyw alaw

nefolaidd i buro a diddanu meibion dynion byth mwy,—ond, druan bach, ni

ŵyr ef ddim am danynt. Feallai fod ei athraw neu ei athrawes heb fedru

ei iaith, ac felly’n hollol anghymwys i’w ddysgu. Feallai, mewn ambell i

ran o’r wlad, fod ei athraw yn Gymro, ond rhy anwybodus i ddysgu dim iddo

am ei wlad ei hun, ac yn rhy ddi-athrylith i weled gogoniant llenyddiaeth

Cymru. Dysgir alawon yn yr ysgolion, ac eto ceir ardaloedd cyfain lle

nas gall y plant ganu “Llwyn Onn.” Rhaid fod rhyw swyn anghyffredin yn

alawon Cymru, yn ogystal ag yn ei hiaith, onide buasai galluoedd

Philistaidd y byd hwn wedi eu llethu er’s llawer dydd. Y Llywodraeth, yn

credu fod yr iaith Gymraeg yn draffeth i’w swyddogion tâl; arolygwyr,

wedi rhoddi eu cas ar iaith nas gallant ond ei hanner siarad; athrawon,

wedi dad-ddysgu Cymraeg da wrth ddysgu Saesneg sal,—neu heb fedru erioed

ond y Saesneg sal yn unig; goruchwylwyr anwybodus, yn credu fod nef a

daear yn agored i’w plant os medrant ddeall Saesneg bratiog porthmyn

Caer,—druan o eneidiau plant Cymru rhyngddynt oll.

Cyrhaeddasom y garreg. Carreg fawr ydyw, ar ben cae glas. Dywed yr

hanes fod Dafydd yn dod adre o Hafod y Porth ar lasiad y bore. Yr oedd

yr haul yn dechre goreuro y mynyddoedd gogoneddus acw, ac yr oedd

ehangderoedd y môr yn y golwg. A chododd ehedydd bach uwchlaw’r coed, ac

arllwysodd lawenydd y bore mewn cân. Rhoddodd Dafydd ei delyn i lawr

wrth y garreg hon, a chyfansoddodd “Godiad yr Ehedydd.”

Wedi cyrraedd y Garreg Wen yn ol yr oedd gwahoddiad cynnes i ni aros

noson. Ond yr oedd yn rhaid prysuro ymaith. Cerddasom yn brysur tua

Phorth Madog, ar hyd rhiwiau lawer. Gwelsom lawer hafan brydferth, ac

aml gip ar y Traeth Mawr a Chastell Harlech rhwng y coed. Yr oedd tri yn

prysuro trwy ystryd hir Porth Madog, a chyda i ni eistedd yn y tren, yr

oeddym yng Nghricieth yn ol. Teimlad dedwydd, wrth gysgu ar lan y môr y

noson honno, oedd y teimlad ein bod wedi gweled bedd y telynor ac wedi

bod yn y Garreg Wen.

Cartrefi Cymru · 第 33 / 46 题