E. O.

Y mae’r bedd yn un o’r rhai mwyaf dinod ymysg y beddau dinod sy’n

llenwi’r fynwent hon; ac oni bai am ofal Elis Owen o Gefn y Meusydd, ni

fuasai yno garreg o gwbl. Uwch ben bedd y cerddor saif danadl poethion a

checs a llysiau bras, anhyfryd eu harogl. Y mae’r fynwent a’r eglwys yn

ddarlun o bethau wedi eu gadael. Y mae’r eglwys wedi ei phlastro

drostri, heb neb i ofalu am ei phrydferthwch, ac yn wag. Y mae’r fynwent

mor anhrefnus a phe buasai pla wedi difa holl drigolion y fro, ac wedi

gadael i’r marw gladdu’r marw.

Eto i gyd, nid ydyw’r fan dawel unig heb brydferthwch. Yr oedd un o

honom wedi blino, a rhoddwyd ef i gysgu ar fedd Dafydd y Garreg Wen, a’i

glust ar y delyn. A glywodd alawon yn ei gwsg, nis gwn. Cerddasom

ninnau, y ddau effro, o amgylch y llannerch gysegredig. Gwelsom mai

mynwent bedair-onglog oedd, gyda choed yn estyn eu canghennau drosti.

O’i hamgylch y mae’r morfa isel, ac yna cylch o fynyddoedd yn edrych dros

y morfa arni. Pan oedd yn ynys, yr oedd yn brydferthach nag ydyw’n awr.

Wedi treulio rhyw awr yn y fynwent, yr oeddym yn effro ein tri, ac yn

newynog iawn. Troisom yn ol i’r ffordd, a chyrhaeddasom Bentre’r Felin.

Te fynnai dau o honom, byddai’n hawdd cerdded ar ei ol, llaeth fynnai’r

llall. Troisom i dŷ hen ffasiwn a’r enw “Temperance” wrth ben ei ddrws.

Tra bo’r tecell yn berwi, buom yn edrych ar lun llongau oedd hyd y mur,

ac yn ysgwrsio â’r cwsmeriaid oedd yn dod i’r siop pob peth. Yr oedd y

cloc awr yn rhy fuan, yr oedd Beibl a llyfr hymnau ar y bwrdd, ac yr oedd

cylch o addurniadau o amgylch carreg y llawr. Gwnaeth y wraig garedig de

da, ac nid oedd yn esmwyth heb ganlyn arnom i fwyta’n ddibaid.

Wedi ymgryfhau fel hyn, ail gychwynasom hyd ffordd Porth Madog. Gwelem

eglwys Ynys Cynhaiarn ar y gwaelod wedi dringo i fyny bryn ac yna collodd

y môr o’n golwg. Teithiasom ymlaen ar hyd y ffordd lychlyd, ac yr oedd

yn mynd yn boethach o hyd.

O’r diwedd daeth y lle i droi o’r brif-ffordd i ffordd gwlad. Yna cawsom

gysgod hyfryd coed derw bychain, ac yr oedd mantell Fair yn tyfu dan eu

cysgod. Arweiniai’r ffordd i fyny o hyd, ac odditanom yr oedd

nant,—gwyddem ei bod yno oherwydd ei dwndwr mwyn ac oherwydd fod

brenhines y weirglodd yn tyfu uwch ei phen. Cyrhaeddasom ben y golwg, a

daethom o’r coed. Yr oedd y tawelwch yn adfywiol anesgrifiadwy,—nid oedd

yno ond su pell y môr a sain ambell aderyn mynydd, a gwelem ehedydd yn

codi ar ael y goleu. Gwelem gastell Cricieth, a mynyddoedd Lleyn yn y

pellder y tu hwnt iddo. A gwelem ein ffordd ninnau’n ymdroelli dros y

ffriddoedd a’r bryniau, drwy wlad o greigdir, dros y mynyddoedd oedd

rhyngom a’r môr. Yr oedd anadlu’r awyr iach yno yn bleser,—yr oedd arogl

grug a rhedyn arni. Yr oedd arnom eisiau bwyd er mai newydd fwyta

oeddym. Gwyn fyd, ni a dybiem, y bobl sydd yn byw yn y fro iach hon.

Holasom y ffordd i’r Garreg Wen yng Ngarth Morthin, ac wedi dringo aml

fryn serth cyrhaeddasom eglwys Treflys. Saif yr eglwys fechan hon yng

nghanol caeau gwair, heb na thŷ na thwlc yn agos ati, a buom yn crwydro

tipyn o’i hamgylch cyn darganfod llwybr troed i fynd ati. Y mae golwg

newydd iawn ar yr eglwys ac ar y beddau; yr oedd y fynwent yn debycach i

fynwent ar hanner ei gorffen nag i hen un. Gwelais lawer pennill ac

englyn tarawiadol. Dyma bennill oddiar fedd merch Braich y Saint,—

“Gorffwysodd, gadawodd yr anial ar ol,

Tu draw i’r Iorddonen y glaniodd;

A’r Iesu dderbyniodd ei hysbryd i’w gôl,

Can’s ffyddlon yw’r hwn a addawodd.”

Cartrefi Cymru · 第 31 / 46 题