Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn Brith. O Langamarch yr eir yno hawddaf. Ganwyd John Penri yn y lle tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef i farwolaeth fel bradwr, Mai 29, 1593.