Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno. Ganwyd “per ganiedydd Cymru,” gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno Ionawr 11, 1791.