GWALIA DEG.

Mi wn am wlad, a'i garw draeth

Gofleidir gan y don,

Sy'n orlawn o gyfrinawl ddysg

'R hwn draetha'i gwyneb llon:

Gwlad yw lle mae mynyddoedd ban,

A glynoedd gwyrdd eu lliw;

Lle'r erys awenyddiaeth glaer:

Hoff Walia heulawg yw.

Gwalia wyllt, wyt decaf wlad;

Wyt decaf wlad--wlad rydd!

Dy eiddo i gyd wyf fi, O dud

Y swynawl gerdd ddiludd.

Ac yn y wlad gyfrinawl hon,

Ceir merched uchel fri,

Sydd a'u gwynebau'n t'w'nu fel

Goleuni haul uwch lli.

Prydferthwch ffrostiawl gwledydd pell,

Sy'n byw yn ngerddi'r byd,

Nis byddant byth brydferthach im

Na rhai fy heulawg dud.

Gwalia wyllt, wyt decaf wlad;

Wyt decaf wlad--wlad rydd!

Dy eiddo i gyd wyf fi, O dud

Y swynawl gerdd ddiludd.

The Death of Saul and other Eisteddfod Prize Poems and Miscellaneous Verses · 第 83 / 296 题