GWAITH SAMUEL ROBERTS. (S. R.)

Rhagymadrodd.

Ganwyd Samuel Roberts yn Llanbrynmair, Mawrth 6, 1800. Bu farw yng

Nghonwy, Medi 24, 1885; ac ym mynwent gyhoeddus Conwy y rhoddwyd ef i

huno.

O'r Diwygiad y cododd teulu galluog S. R. Yr oedd ei dad, John Roberts,

er 1798 yn olynydd i Richard Tibbot a Lewis Rees fel gweinidog Hen Gapel

Llanbrynmair. Dyma enwau aelodau mwyaf adnabyddus y teulu,--

John Roberts - Mary Brees y Coed.

(1767-1834) |

|

+--------+------------+--------+-------------+

Maria Samuel Anna John Richard

(1797) (S.R.) (1801) (J.R.) (Gruffydd Rhisiart)

| (1800-1885) (1804-1884) (1810-1883)

|

Gohebydd

- 1877.

Symudodd John Roberts a'i deulu, tua 1806, o Dy'r Capel i ffermdy y Diosg

dros yr afon ar gyfer. "Tyddyn bychan gwlyb, oer, creigiog, anial, yng

nghefn haul, ar ochr ogleddol llechwedd serth" oedd y Diosg; ac efe yw

Cilhaul.

Daeth S. R. yn gynorthwywr i'w dad fel gweinidog yn 1827; dilynodd ef fel

tenant y Diosg yn 1834. Cyn 1856, yr oedd y brodyr wedi penderfynu

gadael Llanbrynmair,--aeth J. R. yn weinidog i Ruthyn, a hwyliodd S. R. a

Gruffydd Rhisiart i'r America.

Cychwynodd S. R. o Lerpwl Mai 6, 1857; cyrhaeddodd yno 'n ol Awst 30,

1867. Yr oedd wedi ei siomi yn y gorllewin ac wedi troi ei gefn ar dy ei

alltudiaeth,--Bryn y Ffynnon, Scott Co., East Tennessee. Cafodd ei

dwyllo gan y rhai oedd yn gwerthu tir; darlunnir hwy ym Martin Chuzzlewit

Dickens. Nid oedd wedi sylweddoli, hwyrach, mor erwin yw'r ymdrech mewn

gwlad anial. A daeth y Rhyfel Cartrefol i andwyo ei amgylchiadau.

Teimlai fod y ddwy ochr i'w beio, ac mai dyledswydd y Gogledd oedd talu

pris rhyddhad y caethion i wyr y De.

O 1867 ymlaen ail ymunodd y teulu, a bu'r tri brawd byw yn yr un cartref

yng Nghonwy hyd nes y cludwyd hwy i'r un fynwent.

Ychydig iawn oedd yn fwy adnabyddus nag S. R. yn ei ddydd yng Nghymru. Bu

ef a'i frodyr mewn llu o ddadleuon,--y mae y gornestwyr oll wedi tewi

erbyn hyn,--a gwnaethant lawer i ddeffro gwlad. Bu ei Gronicl yn foddion

addysg i filoedd. Bu ef ei hun yn llais i amaethwyr Cymru, ac yn llais i

werin yn erbyn gorthrwm o bob math. Cyhoeddwyd cofiant am dano ef a'i

frodyr yn y Bala, gan y Dr. E. Pan Jones.

Wele ddwy ran nodweddiadol o'i waith. Bu y Caniadau yn hynod boblogaidd;

y teulu yn Llanbrynmair yw'r "Teulu Dedwydd." Hwy hefyd yw teulu

"Cilhaul," ac y maent y darlun goreu a chywiraf o ffermwyr Cymru dynnwyd

eto.

OWEN EDWARDS.

Llanuwchllyn,

Awst 1, 1906.

[Photograph of Samuel Roberts, Llanbrynmair: sr1.jpg]

Gwaith Samuel Roberts · 第 1 / 27 题