At foneddwr--brodor glân,
Lyfr bychan, dos a'th gân,
Nid oes genyf anrheg well
Iddo ar Gyfandir pell
Na'r caneuon syml hyn--
Cerddi bro ei faboed gwyn.
Yma gwelodd gynta'r byd,
Giedd suai gwsg ei gryd,
Yn ei dyfroedd laslanc llon
Dysgodd gyntaf nofio'r don,
Ar ei glanau yfai ddysg,
Yn ei llynau daliai'r pysg.
Am flynyddau wedi hyn
Cerddai'r fro, a dringai'r bryn.
Anturiaethus fu ei daith
I'r pellderoedd lawer gwaith;
A chyfrinach anian gu
Glywodd ar y Mynydd Du.
Myn brodorion yr Hen Wlad
Adrodd beunydd mewn mwynhad
Am ei deithiau yma a thraw
Gyda'i lyfr yn ei law;
Hoffai wybod meddwl dyn,
Meddwl Duw yn fwy na'r un.
Haf a gauaf, tes a gwynt,
Carai fyn'd i'r Capel gynt,
Rhoes ei ddawn yn offrwm byw
Ar allorau sanctaidd Duw;
Casglodd yma fanna bras,
Canodd yma gerddi gras.
I'r cwrdd gweddi ffyddlawn bu,
Yn yr Ysgol, athraw cu;
Ei ddisgyblion dros y byd
Dystiant am ei wersi drud,
Hauodd ef ar lawer dol,
Tyf cynhauaf gwyn o'i ol.
Diwrnod yn y cwmwl trwm
Ydoedd hwnw yn y Cwm
Aeth a'r delfryd lanc di-ail
Tua gwlad machludiad haul;
Yn y cwmwl nid oedd gwên,
Wylai'r ieuanc, wylai'r hen.
Mae blynyddau maith er hyn,
Newid sydd ar fro a bryn;
Hen gyfoedion wedi myn'd,
Nid oes mwy ond _ambell_ ffrynd,
Yntau fry ar dyrau llwydd
Gafodd fyd a Duw yn rhwydd.
Daw hanesion dros y dón,
Hanes glân fel ewyn hon,
Hanes calon eang, hael,
Fedra roi mor llon a chael,
Hanes bywyd sydd a'i fryd
Beunydd i brydferthu byd.
Frodor anwyl, hoff yn awr
Ganddo gofio llwybrau'r wawr,
Mae y Mynydd Du o hyd
Iddo'n gyfrinachau'i gyd,
Salmau'r neint sydd ar ei glyw--
Mynydd ei Wynfydau yw.
Lyfr bychan, dos a'th gân
Drosodd i'r boneddwr glân;
Nid oes genyf anrheg well
Iddo ar Gyfandir pell
Na'r caneuon syml hyn--
Cerddi gwlad ei faboed gwyn.