AC AR

"Y GYMRAEG YN EI DISGLEIRDEB"

THOMAS JONES o'r Amwythig.

Llanuwchllyn, AB OWEN

Conwy, R. E. JONES A'I FRODYR.

1905.

Rhagymadrodd.

Amcan y Geiriadur hyr bwn yw rhoddi ychydig gymorth i efrydwyr Cymraeg y

canol oesoedd. Denwyd fi at y gwaith, oherwydd nad oes Eiriadur hawdd ei

gael i lenyddiaeth Cymreig y cyfnod rhwng Gruffydd ab Cynan a Beibl 1588.

Fy amcan cyntaf oedd cywiro a thalfyrru cyfieithiad Thomas Jones o

_Dictionarium Britannico-Latinum_ Dr. Davies. Y Geiriadur Cymreig a

Lladin a Lladin a Chymraeg hwn yw'r goreu eto; ond y mae yn anghyflawn,

ac nid yw yn hawdd i'w gael. Ysgrifennodd y Dr. Davies ei ragymadrodd

i'w Eiriadur y dydd olaf o Fai, 1632. Cyhoeddodd Thomas Jones ei

gyfieithiad ohono yn 1688.

Drwy annog yr Athraw J. Morris Jones, penderfynais wneyd ychwaneg na

chywiro a chrynhoi; gwnes y Geiriadur mor gyflawn ag y gallwn drwy fy

narllen fy hun, a chymorth Geiriaduron diweddarach. Defnyddiais, yn

enwedig, _Archaeologia_ Edward Lluyd, 1707; Geiriadur Dr. W. Owen Pughe,

1803, rhyfeddod o wybodaeth a llafur, er ei ddamcaniaethau ofer a'i

ddychmygion gwyllt; a Geiriadur anghyflawn fy hen athraw D. Silvan Evans,

gyda'r hwn y bu farw yn 1903 gymaint o gof o bethau Cymreig.

Mor bell ac y gallwn farnu,--oddiwrth lenyddiaeth, enwau lleoedd, a'r

defnydd wneir ar lafar o eiriau'n awr,--yr oedd pob gair sydd yn y

Geiriadur hwn ar arfer yn 1588. Felly nid yw'r llyfr bychan hwn yn

rhoddi cymorth i ddangos fel y tyfodd yr iaith er cyfnod cyfieithu'r

Beibl.

Edrychodd yr Athraw J. Morris Jones drwy y rhan fwyaf o'r proflenni.

Achubodd fi o amryw byllau, ychwanegodd rai geiriau, a bu ei gyngor yn

dra gwerthfawr. Ond na ddalier ef yn gydgyfrifol am un gwall; gallai fod

yn y llyfr wallau na welodd ef, a hwyrach na ddilynwyd ei gyngor bob

amser.

Gwnes fy ngoreu, ond gwn fod y llyfr yn amherffaith. A gaf fi ofyn i

efrydwyr hanes a llenyddiaeth Cymru yn y canol oesoedd roddi prawf arno,

a gwneyd rhestrau o eiriau a dyfyniadau, fel y gallaf ei wella?

Geiriadur Cymraeg a Saesneg Byr · 第 1 / 25 题