Lle treigla'r Caveri {101} yn donnau tryloewon,
Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a'r pin
Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,
Lle distyll eu cangau y neithdar a'r gwin;
Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,
Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,
A'i fron braidd rhy lawn i'w dafod lefaru,
Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:--
"Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau!
Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr?
Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,
Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;
Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,
A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,
Disgwyliais am haul--ond y Seren fachludodd
Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.
"Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd
I'th fynwes fendithion rhagorach nag un,
Yn ofer ag urdd bryd a phryd y'th anrhegwyd,
Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun;
Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal,
A blodau amryliw yn hulio dy anial,
A nentydd yn siarad ar wely o risial,
A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn.
"Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn
Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd;
Yn ofer y gwisgwyd pob dol a phob dyffryn
A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd;
Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar,
A gwythi o berl i fritho dy ddaear;
Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar
Yr angrhed a'i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd.
"Dy goelgrefydd greulon wna d'ardd yn anialdir,
Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham:
Pa oergri fwrlymaidd o'r Ganges {102a} a glywir?
Maban a foddwyd gan grefydd y fam:
Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio;
O! dacw'r nen gan y goelcerth yn rhuddo,
Ac uchel glogwyni y Malwah {102b} 'n adseinio
Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.
"Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,
A'r aberth anfeidrol ar ael Calfari,
Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,
A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; {102c}
Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,
Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd
Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?--
Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. {102d}
"A'th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa,
A'th enaid yn dan o enyniad y Nef,
Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa,
Gyda'r un serch ac addfwynder ag ef;
Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd,
Enillai'r digred at y groes a'r gwirionedd,
Llonyddai'r gydwybod mewn nefol drugaredd;--
Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef.
"Doe i felynion a gwynion yn dryfrith,
Cyfrenit elfennau danteithion y nen;
Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith,
A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen;
Doe y datgenit fod Nef i'r trallodus--
Heddyw ffraethineb sy' fud ar dy wefus--
Ehedaist o'r ddaear heb wasgfa ofidus,
I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. {103a}
'Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti'r diwrnod
'Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd;
Y grechwen sy'n codi o demlau'r eulunod,
Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd;
Juggernaut {103b} erch barotoa'i olwynion--
Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion--
Duodd y nos--ac i deulu Duw Sion
Diflannodd pob gobaith am weled y dydd."
Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio,
Gwnai gam ag addewid gyfoethog yr IOR:
A ddiffydd yr haul am i seren fachludo?
Os pallodd yr aber, a sychodd y mor?
Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia,
Yn ennyn o'r Gauts hyd gopau Himalaya, {104a}
Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India,
O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.
A hwyrach mai d'wyrion a gasglant dy ddelwau
A fwrir i'r wadd ar bob twmpath a bryn,
Ar feddrod ein Heber i'w rhoi yn lle blodau,--
Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn:
Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau,
Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau,
Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau,
Os dinodd y gerdd bydd y llygad yn llyn.
Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i'r beddrod,
Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith;
Yn nghanol dy lesni y gwywaist i'r gwaelod,
A'th ddeilen yn ir gan y wawrddydd a'r gwlith:
Mewn munyd newidiaist y meitr am goron,
A'r fantell esgobawl am wisg wen yn Sion,
Ac acen galarnad am hymn anfarwolion,
A thithau gymysgaist dy hymn yn eu plith.
Llwyni Academus, {104b} cynorsaf dy lwyddiant,
Lle gwridaist wrth glod y dysgedig a'r gwar;
Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant
O alar ac alaeth i'r lluoedd a'th gar:
Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i'th hoffi,
Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri
A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri
Yn golchi dy fynwent wrth draeth Tanquebar.
Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia,
O Helicon yfaist ym more dy oes;
Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa,
A swyn pob testynau daearol a ffoes:
Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau,
A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau;
Tithau'n ddi-fost a dderbyniaist eu cedau,
I'w hongian yn offrwm ar drostan y Groes.
Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn,
Gan addaw pob mwyniant os unit ag ef,--
Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn
Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot a'r nef:
Yn Hodnet {105} yn hir saif dy enw ar galonnau
Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy'th bregethau--
Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau--
Y weddw a noddaist--y wan wneist yn gref.
Gadewaist a'th garant--yn ysbryd Cenadwr
Y nofiaist tros donnau trochionog y mor,
I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr
I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore;
Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain--
Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain--
Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain
Na sengaist ti India heb gwmni dy IOR.
O Gor Trichinopoly, cadw di'n ddiogel
Weddillion y Sant i fwynhau melus hun,
Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel,
Gofynnir adfeilion ei babell bob un;--
Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach,
A ganodd ein Heber ar dannau siriolach,
Yn arwyl y Bardd a pha odlau cymhwysach
Dilynir ei elor na'i odlau ei hun?
"Diangaist i'r bedd--ni alarwn am danad,
Er mai trigfa galar a niwl ydyw'r bedd;
Agorwyd ei ddorau o'r blaen gan dy Geidwad,
A'i gariad gwna'r ddunos yn ddiwrnod o hedd.
Diangaist i'r bedd--ac ni welwn di mwyach
Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen:
Ond breichiau rhad ras a'th gofleidiant ti bellach,
Daeth gobaith i'r euog pan drengodd yr Oen.
"Diangaist i'r bedd--ac wrth adael marwoldeb
Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,
Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb,
Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist.
Diangaist i'r bedd--byddai'n bechod galaru,
At Dduw y diangaist--y Duw a dy roes:
Efe a'th gymerodd--Efe wna'th adferu
Digolyn yw angau trwy angau y groes."
* * * * *