FY ANWYL FAM,

Fy nyledswydd ydyw hysbysu i chwi, gyda phob brys, fy mod wedi cyrraedd

pen fy nhaith yn gysurus, a chael pob peth wrth fy modd. Y mae y cyflwr

unig y gadewais chwi ynddo, yn peri i mi hiraethu mwy am danoch y tro hwn

nag un tro o'r blaen. Buasai yn dda gan fy nghalon gael aros yn agos

atoch nes i angeu ein gwahanu. Ond nid felly y mae Rhagluniaeth yn

trefnu: rhaid i ninnau ymostwng. O ddiwrnod i ddiwrnod daw y flwyddyn i

fyny, pan y caf eich gweled, gobeithio, mewn gwell iechyd ac ysbrydoedd

nag y gadewais chwi. Yn y cyfamser erfyniaf arnoch, er dim, i gadw eich

meddwl mor dawel ag y galloch: ar hyn y mae eich cysur chwi a minnau yn

ymddibynu. Ni wna tristhau ac ymofidio ddim ond gwaethygu eich llygaid

dolurus, a chlwyfo meddwl y rhai a'ch carant. Digon gwir cawsom golled

fawr,--collasom y cyfaill ffyddlonaf a thirionaf a welsom erioed; eto "na

thristawn fel rhai heb obaith." Oni adawodd dystiolaeth ar ei ol ei fod

wedi myned i ddedwyddwch--i wlad well na daear, "lle y gorffwys y rhai

lluddedig, ac ni chlywant lais y gorthrymydd." Ac os dilynwn ei lwybrau,

ni a gawn ei gyfarfod eto mewn ardal nad oes na phechod, na phoen, nag

ymadawiad o'i mewn. "Gwir ddymuniad fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw sydd

erddoch."

Gwaith Alun · 第 68 / 79 题