AT LENOR.

(MR. E. PARRY, CAERLLEON.)

_Athrofa'r Iesu, Rhydychen,

Chwefror 25ain, 1825_.

Y mae yn ddywenydd mawr genyf ddeall fod eich Cymdeithas yn gwellhau yn

ei hamcanion fel y mae ei gallu yn cynyddu. Hwyrach na lwyddwch i gael

cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;--rhai o herwydd eu hoerfel at yr

achos Cymreig,--a llawer am fod rhannau eraill o'r wlad yn galw am eu

gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, neu feddiannau.

Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog ac unfryd trigolion

eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, a gallwch wneuthur

gwyrthiau.

Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o'i choleddu, ac eneidiau Cymru yn

werth eu cadw. Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os ydynt werth

rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a'i caech.

Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,--y mae'r gwr hwnnw

yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo. Yr ydwyf agos yn eddigeddu y

pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn ewyllysio i chwi fil mwy.

Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach

yn fy nghell yn lle troedio'r heolydd i ddangos fy "nghenin," a gadael

i'm henaid lesmeirio wrth gyngan y delyn. Ond rhaid boddloni, ac yr

ydwyf yn foddlon ac yn ddiolchgar.

Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.--Credwch fi,--mor syml

a diniwed a Meudwy, a mor ddedwydd a Thywysog. Cof am gartref a hen

gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof am wlad fy

ngenedigaeth, a dyna'r unig ddefnyn chwerw sydd yn fy nghwpan. Y mae

penaethiaid yr Athrofa yn dirion i'r eithaf, a chyd-astudwyr mor

gyfeillgar ag y gallwn ddymuno.

Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i'ch Cymdeithas;

ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd a'r Brifysgol y'mhen

pum' mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur nemawr amser i gysoddi dim. Pa

fodd bynnag, dyma ryw bethau yn llun englynion "Ar y ffolineb o wadu

Iaith gynhenid," a ddymunwn gyflwyno i'ch Cymdeithas a chwithau, i aros

gwell.

A wirionwyd ar unwaith--yr adyn

Pan redai i estroniaith,

I wadu'i wlad, gyda lediaith,

Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith?

A yw'n gywilydd gan ei galon--iaith serch

Iaith su ei fam radlon?

Ddyddiau hir, mor dda oedd hon

I ynganu angenion?

Ai gwr yw a gar awen--heb arddel

Iaith beirddion disgywen?

Ai un am les hanes hen

Wrthoda chwaer iaith Eden?

Iaith oedd araeth i ddewrion,--wroniaid

Drwy enwog ymdrechion,

Tan eu heirf bloeddient yn hon

"Trowch i'r gad! tr'ewch ergydion!"

Ac onis dewis y dyn--y gyngan

Sydd rhwng cangau'r dyffryn?

A gwin i'w fant? ac ni fyn

Iaith hudoliaeth y delyn?

Onid yw iaith fyw mor fad--yn deilwng

O'n dilyth arddeliad?

Neb ond un gwrthun a'i gwad

Neu a ludd ei choleddiad.

Y mae doethaf gymdeithion--Cymroaidd,

Ac amryw o'r Saeson--

Y'Ngwalia mae angylion

Gyda'u heirf am gadw hon.

A cheir yn pleidio ei choron--euraidd

Iorwerth a'i gyfeillion,

A gwr mawr o gyrrau Mon

Yn Llywydd yn Nghaerlleon.

Mwy addas i was isel--a'i osgedd

Am esgyn yn uchel,

Garu ei iaith, a'r gwr wel

Werth ei hurdd wrth ei harddel.

O'i gwrthod, gwawd ac erthwch,--a'i dilyn

Hyd elor drwy dristwch;

Ni cha lin goruwch ei lwch,

O glod goreu gwladgarwch.

Boed gan Gymro ym mhob broydd--o'i brif-iaith

Bur fost yn lle c'wilydd,

Fel na ddel, tra y del dydd,

Lediaith ar ein haelwydydd.

Gwaith Alun · 第 57 / 79 题