_Athrofa'r Iesu, Rhydychen,
Rhagfyr 19, 1824_.
Gobeithio eich bod yn myned y'mlaen gyda Lladin. Ni wyddoch pa beth a
all esgor. Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth yn dysgu; a
gwn na byddai yn boen i'ch meddwl llym chwi dreiddio iddi ar amnaid. Mi
a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori fel hyn. Os gallwch,
trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn yr ieithoedd dysgedig,--os
addunedwch beidio croesi trothwy tafarn yn y Wyddgrug,--os peidiwch a
chyfeillachu a neb ond dynion parchus, a phrin a rhai'ny,--os byddwch
ddyfal yn eich sefyllfa,--os gyrrwch ambell i ddernyn i'r Eisteddfodau,
er mwyn tynnu sylw,--os ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a
gostyngedig,--ac os, gyda hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y
goreu o ddynion, Mr. Clough--meddyliwn na byddai yn anhawdd nac yn
dreulfawr i chwi gael trwydded yma. Y mae eich synwyr yn ormod i
adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn ei gylch i gyfaill eich mynwes.
Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw?
Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr
unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth. Y mae fy mynwes i yn gwaedu heddyw
gan y clwyfau a dderbyniais ynddynt. Ni welais gyfaill da o fewn eu
muriau erioed, ac ni welais un niweidiol iawn y tu allan. Ni wna
ymddygiad isel a buchedd rinweddus a duwiol eich amddifadu o unrhyw
bleser teilwng o'r enw: yn hytrach gwna i'ch cwpan redeg trosodd--addurna
chwi ger bron eich gwlad--a thywysa chwi at ffynnon a arllwys ei dwfr pan
y bydd Alyn, a Helicon hefyd, wedi sychu. Hyderaf na ddigiwch am yr
hyfder a gymerais. Gwiriaf i chwi iddynt ddylifo oddiar deimlad mor bur
ag a gurodd erioed ym mynwes tad. Gwn eich bod yn agored i lawer o
demtasiynau, y rhai a gynyddant po fwyaf y deloch i sylw y byd. Gwn,
hefyd, fod eich cysur amserol a thragwyddol yn ymddibynnu ar eu
gorchfygu. Gwyddoch chwithau fod rhan fawr o fy nghysur innau ynglyn
wrthych fel cyfaill fy ieuenctyd. Bellach, ai gormod im' am unwaith
ddringo Ebal? Do, fy nghyfaill, cefais i wybod trwy brofiad trist fod
deniadau cyfeddach yn llymach na saethau cawr, ac yn chwerwach na marwor
meryw. Mi syrthiais i ymhlith y lladdedigion. Tybiodd fy nghyfeillion
ddarfod am danaf byth, a gadawsent fi i'm tynged. Ond, trwy y moddion
rhyfeddaf, dywedodd y Gwr y rhyfelais yn ei erbyn, "yn dy waed bydd fyw."
Cefais yn barod lawer prawf o'i diriondeb; ac nid ydwyf yn cwbl
anobeithio cael, o radd i radd, fy nerbyn i'w fyddin ac i gludo ei faner.
Hyd yn hyn, y mae fy mriwiau yn rhwystro imi gydio mewn arf; ac yr ydwyf
yn treulio fy oes gan y mwyaf wrth odreu Sion; ac weithiau, wrth godi'm
llaw at ddail y pren sydd yn iachau'r cenhedloedd, dymunwn amneidio a'r
llall at fy nghyfeillion, i beri iddynt ochel y llannerch lle y
derbyniais i y saeth a lynodd yn fy nghalon.