EMYN PASG.

Wele'r Ceidwad gaed yn Meth'lem

Acw'n marw dan ei loes,

A gwyryfon tyner Salem

'N gwlychu a dagrau droed ei groes:

Caua'r haul ei lygaid llachar

Rhag gweld clwyfo'r Sanct ei hun;

Ei ruddfanau sigla'r ddaear,

Cryna pob peth ond y dyn.

Deuwch saint, gollyngwch ddagrau

Uwch trychineb Calfari,

Dros yr hwn a roes ochneidiau

Dan y baich haeddasoch chwi;

Drosoch hidlodd ddafnau heilltion

Is arteithiau gwg y nen,

Nid o ddwfr, ond gwaed ei galon,

Yna trengodd ar y pren.

Dyma dristwch heb ei debyg,

Gras a chariad pur y'nglyn,

Duw'r gogoniant dan y dirmyg,

Ac yn marw i brynu dyn:

Ond wele achos llawenychu!

Testun can dragwyddel fydd,--

Iesu'r Ceidwad sy'n dadebru

'N gynnar ar y trydydd dydd.

Gwelwch fel mae'n concro angau!

Syllwch ar ei ddwyfol wedd!

Grym ei fraich, a gair ei enau,

Sydd yn dryllio bolltau'r bedd:

Llengau'r nef, anrhaethol nifer,

A'i gwarchodant tua'i wlad--

Rhwygai cerddi yr ehangder,

Cerddi croeso i lys ei Dad.

Bellach, saint, eich dagrau sychwch,

T'rewch y gu dragwyddol gan,

C'weiriwch eich telynau, cenwch

Wyrthiau eich Gwaredwr glan:

Dwedwch iddo fathru'r gelyn,

'Speilio lluoedd certh di ri',

T'wyso angau du mewn cadwyn,

A chysegru'r bedd i chwi.

Bloeddiwch, 'Ryfedd Frenin Sion,

Doed y ddaear dan dy iau!

Ganwyd ti'n Waredydd dynion,

Wyt yn gadarn i iachau.'

Gofynnwch wedyn i'r anghenfil,

'Ple mae'th golyn oer yn awr?

Fedd ymffrostgar, ddu dy grombil,

P'le mae'th fuddugoliaeth fawr?'

Gwaith Alun · 第 40 / 79 题