Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y
cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal
dirionderau. Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o
fangre fy mam. Daethum yma y 30ain o'r mis diweddaf, a chefais Mr.
Richards a'r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig. Mae yma dri
o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i'r Brif Ysgol,--ni welais dri erioed
mor wahanol eu hansawdd a'u tymherau i'w gilydd; ond trefnodd y
Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o'r bru, a'r hon a drefnodd fy
ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos
gyntaf o'm hainfodiad yn eu plith. Fel hyn, y mae'r coelbren wedi
syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am
gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd "dyma
etifeddiaeth deg." Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr
aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf--y llanerchau a fuont olygfeydd
fy chwareuyddiaethau plentynaidd,--neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion
lliosog a hawddgar,--ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, dyma'r
fan debycaf oll. Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd gan serch, ac a
gysegrwyd gan ffyddlondeb. Felly rhaid addef yr hyn y byddai yn ffolineb
ei wadu--fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych ar adenydd dychymyg o lannau
Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a Mersey, lle y profais
gyfeillgarwch oedd yn fel i'm genau ac yn iechyd i'm hesgyrn. Os gwelwch
chwi neb o'r hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y'nghoflyfr
Gwalia,--dywedwch fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt.
Am danaf fi, er yn rhy isel mewn sefyllfa i allu gorchymyn, ac yn rhy
wael mewn dawn i allu teilyngu sylw, eto fy ymdrech pennaf hyd angeu
(ni'm cyhuddir o ymffrost wrth wnenthur y broffes) fy ymdrech, yn nesaf i
foddloni fy Nghreawdwr, a meithrin cydwybod dawel, a fydd trefnu fy
ngherddediad fel na wnelo fy ngwlad wrido o'm harddel.