[John Blackwell (Alun): alun0a.jpg]
[Gwaith Alun: alun0b.jpg]
Rhagymadrodd.
Ganwyd John Blackwell (_Alun_) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797. Un o
Langwm oedd ei fam--gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i'r
seiat a'r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr
emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig
ynddo; cydymdeimlai yntau a'i fachgen.
Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth,
prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi
bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai'n aml i
Gaer i chwilio'r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg,
chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd
ei hoffter.
Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn Eisteddfodau
Rhuthyn, Caerwys a'r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda'i awdl Genedigaeth
Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda'i awdl Maes Garmon yn yr olaf. Yr oedd
ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig.
Yn 1824 aeth i'r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i
afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda'r ficer, y Parch. Thomas
Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach,
cywreiniach. Clerigwyr pobtu'r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg
yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y
cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith Gymraeg.
Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei
arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a'i fryd ar
lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar
ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgodd felodi
newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.
Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei Farwnad
Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, trwy
eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.
Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon. Bu yno, yn fawr ei
barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd Arglwydd Brougham
iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro. Yn 1834 cychwynodd y
_Cylchgrawn_, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaith clasurol a
phur. Yr oedd y _Gwladgarwr_ eisoes ar y maes; a digiodd Alun ei
gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl, am wrth-ymgais.
Ond ychydig elynion fu iddo. Yr oedd mor anhunangar a hael ei ysbryd,
mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei fuchedd.
Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei
waith yn 1851.
Eos Cymru oedd Alun,--yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust ei
genedl.
OWEN M. EDWARDS.
_Ebrill 9, 1909_.
Cynhwysiad.
[Ceisiwyd trefnu'r darnau mor agos ag y gellid i'w trefn amseryddol.]