I.—HET NEWYDD F’EWYRTH JOHN.

“Nedw,” medde Wmffre Pont Styllod, “ddoi di i hel crabas yn lle mynd i’r

ysgol y pnawn ma?”

Er mwyn i chi ddallt pethe, fi ydi Nedw, a nghefnder ydi Wmffre.

Adeg hel cnau a chrabas yn y Tyno oedd hi. Does ene ddim coed yn y Tyno,

ond coed cnau a choed crabas. Ac ar yr adeg yma ar y flwyddyn, mae hi

bron bod yn nefoedd ar y ddaear arnom ni, fel mae nhw’n canu yn y capel.

Ni fase eisio dim chwaneg i’w gneud hi’n nefoedd hollol, onibae am

Joseph y Titshar. Ar ganol dydd y byddwn ni’n hel cnau, a fi ac Wmffre

ydi’r ddau heliwr gore. Mi ces hi’n ofnadsen gan Joseph un diwrnod, a

dene pam nad ydi hel cnau a chrabas yn nefoedd hollol. Roedd y scŵl ei

hun yn digwydd bod yn sâl. Mae o’n well siort na Joseph. Wedi bod yn hel

yr oedd Wmffre a minne, a lot o rai erill, ac yn dwad yn ol i’r ysgol

â’n pocedi’n llawn,—dwy boced ein trowsuse, a dwy boced ein jecedi, nes

oedden ni bob un yn edrych fel y peth mae nhw’n alw’n falŵn, sy â’i llun

yn llyfr Standard IV. Wrth lwc, roedden ni’n ddigon buan i’r ysgol y

pnawn hwnnw, ac am hynny doedd gan Joseph ddim byd i ddeyd, er ei fod

o’n llygadu’n arw wrth weld y bechgyn yn dwad i mewn fel clomenod wedi

hanner eu saethu, eu hadenydd nhw’n gostwng, a’u coese wedi chwyddo.

Roedd o wedi’n siarsio ni o’r blaen ynghylch torri’r cnau yn yr ysgol,

ac wedi deyd be fydde’r gosb. Pan oedd o heb fod yn edrych, mi fydde ene

dorri mawr, a gwthio’r blisg i hinjis y ddesc, a phan fydde raid codi a

gostwng y ddesc, roedd hi’n helynt. Aethom i’r ysgol y pnawn cyn yr un

yr ydwi’n mynd i sôn amdano fo, yn iawn. Wedi canu, dyma rannu’r slaets

i ddechre sgwenu. Yn hollol sydyn mi eis i yn wyn ac yn chwys drosta i

gyd.

“Edward Roberts,” medde Joseph, “ydech chi’n sâl?”

Edward Roberts ydi f’enw iawn i wyddoch; ond fydda i ddim yn ei glywed o

ond ganddo fo, a chan Jane Jones, Tyddyn Derw, pan yn mynd yno i nôl

llaeth. Fedrwn i ddim deyd wrth Joseph mod i’n sâl, o achos toeddwn i

ddim; a fedrwn i ddim deyd nad oeddwn i ddim, o achos roeddwn i’n teimlo

fy mod i. Mi ddeyda i chi be oedd y mater. Roedd fy mhensel i yng

ngwaelod fy mhoced, o dan y cnau i gyd, a’r cnau wedi’u gwthio i mewn

mor dyn fel na fedrwn i yn fy myw fynd yn agos ati hi. Fe welodd y

bechgyn i gyd yn syth be oedd y mater, am nad oedd o’n ddim byd newydd;

ond fedre nhw ddim cynnyg benthyg pensel i mi heb i Joseph weld. Doedd

dim i’w neud ond aros fel roeddwn i,—edrych arno fo heb ddeyd dim.

Meddyliodd Joseph mod i’n mynd i ffeintio, a gyrrodd fi allan i’r awyr

iach. Ac allan â mi gymint fyth. Yn hynny mi fethes. Mae’n debyg fod yr

hen Joseph wedi ameu ar fy ffordd o fynd allan nad oeddwn i’n rhyw

ffeintlyd iawn, am fy mod wedi mynd ar ddau gam. I ffwrdd â mi i gefn yr

ysgol o’r golwg, ac mi deimles fy ngore am y bensel o’r tu allan i

waelod poced fy nhrowsus, nes oeddwn i’n chwys. A thuchan a chwysu

roeddwn, pan ddaeth rhyw gysgod heibio imi. Mi godes fy mhen, ac mi fu

bron imi ffeintio mewn gwirionedd. Pwy oedd yn sefyll uwch fy mhen, yn

gwylio pob symudiad, ond Joseph. “Ho, dyma’r saldra,” medde fo.

Gafaelodd yn fy nghlust i, a gerfydd fy nghlust yr aeth â fi i mewn.

Roedd y bechgyn erill yn ofni ac yn crynu erbyn hyn. Aeth Joseph â fi at

y ddesc.

“Ffeindia dy bensel,” medde fo.

“Fedrai ddim, syr,” medde finne.

“Lle mae hi?” medde fynte.

“Yng ngwaelod fy mhoced i, syr,” medde finne. Mae’n bwysig galw Joseph

yn “syr” ar adege fel hyn.

Mi bwysleisies y “syr,” er mwyn y dyfodol, fel mae nhw’n deyd. Gneud i

mi dynnu’r cnau i gyd allan ddaru o, beth bynnag; ac wrth bob dyrned o

gnau, roeddwn i’n cael pinsh newydd yn fy nghlust, nes fy mod i’n

gweiddi, fel Jinny fy chwaer hyna, pan oedd mam yn tyllu ei chlustie hi

â’r nodwydd sanne, er mwyn rhoi ear-rings nain iddi. Dydwi ddim yn fabi

fel Jinny, chwaith. Er ei gwaetha wrth geisio peidio yr oedd hi’n

gweiddi, am mai hi oedd eisio’r ear-rings; ond wrth fy mhwyse, wedi

ystyried priodoldeb y peth, roeddwn i’n gneud.

Mi wages y cnau i gyd yn y man, ond doedd yno run bensel.

“Lle mae’r bensel?” medde Joseph. Wyddwn i ar y ddaear, o achos yn fy

mhoced chwith yr oeddwn i arfer a’i chadw hi, a’r pethe gwerthfawr erill

yn fy mhoced ddethe.

“Gwaga’r boced arall,” medde fo, gan newid ei afael o’r naill glust i’r

llall. Wel, doedd dim i’w neud ond gwagu’r llall, a gosod y cnau efo’r

lleill ar ei ddesc o, a gweiddi fel porchell mewn llidiard, o dan bob

pinshed. Wedi eu gwagu nhw i gyd, doedd y bensel ddim yno chwaith.

Wyddwn i ddim be i neud, o achos roeddwn i’n dechre gweled fod cnau’r

pocedi erill, pocedi fy jeced, mewn peryg o fynd. A mynd ddaru nhw, nes

bod un domen fawr o gnau ar ddesc y scŵl, ond wedi’r cwbwl doedd ene’r

un bensel. Mi chwilies ac mi chwilies, a Joseph erbyn hyn yn gafael o’r

tu ol imi yn fy nwy glust. Rhois fy llaw wedyn yn y boced yr oeddwn

arfer cadw mhensel ynddi hi; tynnes y boced allan, ac er fy syndod, beth

oedd yn y gwaelod ond twll, a rhaid bod y bensel wedi llithro trwy

hwnnw. Pan welodd Joseph y twll, gollyngodd fy nghlustie. Rhaid oedd imi

ddal fy nwylo wedyn a chael dau slap, ond nid cyn iddo fethu lawer

gwaith, o achos, rydech chi’n gweld, naturiol iawn ydi i greadur dynnu

ei law yn ol heb yn wybod iddo’i hun, pan y mae’r ffon yn dwad i lawr, a

chodi pen glin y goes sydd ar yr un ochor â’r llaw honno yr un pryd.

Mae’n rhaid eu bod nhw’n gweithio ar yr un llinyn, fel coese a breichie

mwnci ar bric. Pheidies i ddim â gneud hynny chwaith, nes teimlo fod

dyrnod mewn pen glin yn brifo mwy na dyrnod mewn llaw. Rhaid bod y

llinyn wedi torri ar ol y dyrnod hwnnw, am na chododd fy mhen glin wedyn

wrth i mi dynnu fy llaw i ffwrdd. Wedi i mi fynd i’m lle, dyma Joseph yn

deyd gair wrth yr ysgol i gyd. Mae o’n fwy llym na’r scŵl. Mae nhw’n

deyd ei fod o’n disgwyl cael mynd yn scŵl ei hun cyn bo hir. “Wel,”

medde fo, “rydwi wedi deyd be fydde’r gosb os daliwn i rywun, a dyma fi

wedi dal Edward Roberts.” (Roedd ganddo ryw lach arna i ers tro, rydwi’n

siwr). “Y gosb ydi i mi lenwi mhocedi efo’r cnau yma, a thaflu’r

gweddill allan i’r ffordd i bawb eu pigo nhw.”

Trodd at y ddesc, llenwodd ddwy boced tu ol ei jeced, ac wrth gerdded yn

ol a blaen yn yr ysgol y pnawn hwnnw, roedd o am y byd fel y llunie

welsoch chi o ferched ers talwm iawn, pan oedden nhw’n gwisgo’r peth mae

mam yn ei alw yn “bysl.”

Bedwar o’r gloch, dyma ollwng y plant allan, a hel y baich cnau oedd ar

y ddesc, a’u taflu nhw i gyd i’r ffordd, a Joseph yn sefyll yn nrws yr

ysgol tan wenu, i edrych ar y bechgyn yn scramblo amdanyn nhw, a finne â

mhwyse ar wal yr ysgol yn edrych,—minne hefyd yn gwenu, am fy mod i’n

nabod y bechgyn yn well na Joseph. Wedi eu hel nhw i gyd, heb un ar ol,

daeth Wmffre nghefnder ata i, a phob un o’r bechgyn ar ei ol o, a

rhoisant yn ol imi fy nghnau i gyd, gan eu gwthio i mhocedi. Codes fy

mhen i edrych ar Joseph, ac mi gwelwn o yn cau’r drws, ac yn mynd i mewn

i’r ysgol.

Dene’r pam fod Wmffre a minne wedi chware triwels[1] pnawn drannoeth. Mi

wyddem na feiddie Joseph neud llawer inni, am ei fod wedi gweld na chai

o mo’r bechgyn o’i blaid. Ond mi fase’n well i mi fynd i’r ysgol, beth

bynnag am Wmffre.

Aethom i’r ysgol bore drannoeth, heb feddwl o gwbl am y triwels yma, ac

aeth popeth yn ei flaen fel arfer. I ffwrdd â ni i hel cnau wedyn—ganol

dydd,—lond y ffordd o honom ni. Ymhen yr hwyr a’r rhawg, pan oedd

Wmffre yn nhop y pren crabas, a minne’n eu dal nhw iddo fo, canodd cloch

yr ysgol, ac am yr ysgol â ni am ein bywyd. Yn y man mi sylwes nad oedd

Wmffre yno. Trois fy mhen, a dene lle roedd o’n ceisio tynnu ei jeced yn

rhydd oddiwrth gangen y pren crabas. Doedd dim i’w neud ond mynd yn ol

i’w helpio fo, a chymyd ein siawns wedyn efo Joseph. Cyn gynted ag y

cyrhaeddes i yn ol at Wmffre, ac i’r bechgyn erill fynd o’r golwg, mi

dynnodd ei hun yn rhydd yn rhwydd ddigon.

“Ddoi di i hel crabas yn lle mynd i’r ysgol,” medde fo, “mae ene bren

ardderchog wrth ein tŷ ni. Dydi nhad ddim gartre, ac mae mam wedi mynd i

edrych am modryb Marged.”

Gweles drwy’r bachu wrth y pren yn syth, ac heb ddeyd gair chwaneg, i

ffwrdd â ni at Bont Styllod. Fuo ni ddim yno yr un hanner awr, nad oedd

pob poced yn llawn, a chan fod swp mawr o gnau ar lawr, oedd wedi eu

tynnu o’n pocedi ni, roeddem ni uwch ben ein digon.

Wedi bwyta nes mynd bron yn sâl, a digon o amser wedyn ar ein dwylo,

roedd yn anodd gwybod be i’w neud. Yng ngwaelod y cae yr oedd ceffyl

newydd f’ewyrth John, un broc, un o’r rhai hardda welsoch chi rioed. Dyn

od ydi f’ewyrth John, neiff o ddim deyd y drefn yn iawn wrthych chi, fel

dyn, am neud drwg. Mynd yn gaclwm gwyllt mae o, ac wedyn torri ei galon,

a hanner nadu, ac mae’n gâs gen i weled dyn yn torri ei galon.

“Be ddyliet ti o fynd ar gefn y ceffyl acw, a ffogieth[2] tipyn arno ar

draws y cae?” medde fi wrth Wmffre. Ac nid cynt y deydes i nad oedd

Wmffre wedi taro ar gynllun i’w ddal o, a dyma’r cynllun,—mynd â llond

desgil o India Mêl iddo, i Wmffre gymyd yr India Mêl, ac inni ein dau

redeg ar ei ol nes ei gael i gornel, i mi wedyn fynd y tu ol iddo fo,

rhag ofn iddo droi’n ei ol, ac i Wmffre fynd o’i flaen efo’r India Mêl,

a gafael yn ei fwng pan fydde fo yn ei fwyta. Er chwilio a chwilio,

fedre ni yn ein byw gael yr un ddesgil, na bwced na dim. Yr unig beth yn

y golwg yn unman, a ddalie rywbeth felly, oedd het i f’ewyrth oedd y tu

ol i’r drws yn y tŷ.

“Ei het ore ydi hi, wyddost,” medde Wmffre; “ond hidia befo, mi cymerwn

ni hi, fydd hi ddim yn anodd ei chnau hi wedyn.”

Wedi llenwi’r het ag India Mêl, allan â ni i’r cae. Pan welodd y ceffyl

ni, dyma fo’n dechre trotian i ffwrdd, a ninne ar ei ol, ac ar ei ol hyd

nes bod y ceffyl yn twymno ati hi wrth redeg, a ninne’n chwys diferol.

O’r diwedd cawsom ef i gornel, ac eis inne o’r tu ol iddo, gan feddwl

cael gafael yn ei gynffon, os methai Wmffre gyrraedd y mwng. Cawsom

lawer o hwyl ein dau wrth afael yng nghynffon Mejar, mul du’r Felin, ac

ynte’n ein tynnu ni fel y gwynt ar draws y caeau a thrwy’r gwrychoedd

a’r ffosydd. Ond mi spwyliodd Wmffre bethe efo’r ceffyl. Yn lle mynd yn

dawel at ei ben o, gan gofio nad ydi ceffyl ddim arfer cael bwyd mewn

het, rhedodd ato a dangosodd yr het yn sydyn o flaen ei drwyn, a rhaid

bod y ceffyl wedi dychrynnu. “Wb!” medde fo, ac mi deimlwn fy hun mewn

rhyw wlad ddiarth, rhwng twyll a gole, a rhwng twyll a gole y bu hi arna

i’n hir. O’r diwedd mi oleuodd dipyn mwy, a’r peth cynta weles i oedd

Wmffre efo llond yr het o ddŵr, yn golchi ngwyneb i.

“Frifest ti’n arw, Nedw?” medde fo.

“Brifo be?” medde finne, gan synnu be oedd Wmffre eisio yn y wlad honno.

“Rwyt ti wedi cael cic ofnadwy yn dy foch,” medde fo.

Teimles fy moch, ac yr oedd hi fel taswn i wedi cael tair neu beder

dannodd yn syth ar ol ei gilydd. Roedd hi wedi chwyddo’n fawr ofnadwy,

ac yn hongian. Codes ar fy nhraed, ond fedrwn i ddim sefyll. “Eistedd i

lawr am dipyn,” medde Wmffre, “ac mi awn ni am dro bach wedyn; ond gad

imi redeg â’r het yma’n ol yn gynta. Eidïa dda oedd y dŵr yma, mae’r het

rwan yn hollol lân, ond mi ges drafferth i gael yr India Mêl ohoni hi.”

Aeth Wmffre â’r het yn ei hol, ac am dro â ni. Doedd gennym ni ddim

llawer o flas i hel cnau a chrabas. Toc, dyma ni at y tŷ, ac mi glywem

ryw sŵn mawr pan yn nesu ato fo. Wedi dwad i’w olwg, be welem ni, ond

f’ewyrth John ar garreg y drws yn dawnsio, ac wedyn yn torri i nadu a

chrio, tan ddal ei het ore yn ei ddwylo, ac edrych i mewn iddi hi. A

nadu o ddifri yr oedd o, ac nid nadu o fregedd. Wel, fedra i ddim dal

gweled hen bobol yn nadu, ac mi gychwynnes adre, a rhag ofn styrbio

f’ewyrth cyn iddo gael ei nadu allan yn iawn, fe ddaeth Wmffre i’m

hebrwng i. Dydio ddim yn beth iach, medden nhw, rhwystro dyn i gael ei

nadu allan yn iawn.

Mi ddiolches lawer am y cic hwnnw. Arbedodd fi rhag ei chael hi wedi

mynd adre, o achos roedd Miriam, fy chwaer, wedi deyd nad oeddwn i ddim

yn yr ysgol y pnawn. Ac arbedodd fi yn yr ysgol drannoeth.

“Edward Roberts,” medde Joseph yn y bore, “tyn y peth ene allan o dy

gêg.” Roedd o’n meddwl mai llond fy moch o grabas, neu rywbeth felly,

oedd yn gneud y chwydd, o achos tase’r chwydd yn chwydd dannodd, mi fase

gen i wlanen goch am fy mhen, a hogle tyrpentein drostai i gyd; ond

doedd gen i ddim byd felly. Dechre nadu ddaru mi beth bynnag, ac mi

ffeindiodd Joseph fod rhywbeth mawr o’i le, am na fydda i byth yn nadu.

Esboniodd Wmffre iddo fo mai wedi cael cic gan ceffyl oeddwn i, a

chlywes i ddim chwaneg am y peth. Hwyrach fod cydwybod Joseph yn ei bigo

fo am y cnau rheini.

Mi edryches drwy mysedd ar het f’ewyrth ar yr hoel yn y capel dydd Sul,

pan oedden nhw’n gweddio, ac roedd hi’n edrych yn dda iawn a chysidro.

O! ia, mi anghofies ddeyd wrthych chi mod i wedi ffeindio fy mhensel yn

fy hosan, wrth fynd i ngwely nosweth helynt y cnau.

-----

[1] _Truant._

[2] Marchogaeth.

Nedw · 第 6 / 22 题