BU helynt arswydus yn Llangrymbo gryn lawer o flynyddoedd yn ol. Aeth y
trigolion yn benben, er na wyddai neb yn iawn pam. Y lecsiwn fu’r
achlysur, sut bynnag, yr oedd hynny yn sicr; ond y mae cryn dywyllwch
ynghylch cychwyniad yr helynt. Yn hytrach, yr oedd cryn dywyllwch yn ei
gylch. Bellach, yr wyf fi yn abl i daflu goleuni ar y mater. Nid trwy fy
nghlyfrwch fy hun ychwaith, ond trwy allu a dyfalwch fy hen ewythr, a fu
farw ryw ychydig amser yn ol, ac a adawodd ei bapurau—yr unig
gynysgaeth, gwaetha ’r modd!—i mi. Y mae yn y papurau hynny lawer o
bethau dyddorol, ac yn eu plith, oleuni ar Ffrae Fawr Llangrymbo.
Ond cyn rhoi hanes yr helynt, rhaid i mi ddywedyd gair neu ddau am fy
ewythr, fel y caffoch bob chware teg i farnu ei waith. Teiliwr oedd fy
ewythr wrth ei alwedigaeth, a theiliwr go sal, y mae arnaf ofn, canys
gadawodd yr alwedigaeth yn gynnar, a throes yn ohebydd papur newydd. Y
peth a’i harweiniodd i’r alwad ardderchog honno oedd, ddarfod iddo pan
oedd yn hogyn ifanc ennill gwobr o hanner coron mewn cyfarfod llenyddol
am y traethawd goreu ar Hanes Llangrymbo. Cafodd y traethawd hwnnw
gymaint o ganmoliaeth gan y beirniad fel y credodd fy ewythr yn y fan
mai nid teiliwr oedd o wrth natur, ond llenor. Felly, anfonodd hanes y
cyfarfod llenyddol i’r _Corn Gwlad_, a chafodd ei benodi yn union deg yn
ohebydd lleol i’r papur enwog hwnnw. O dipyn i beth, gwnaed ef yn
ohebydd arbennig i’r papur clodwiw, ac yr oedd ganddo ddarn mawr o wlad
tan ei ofal. A gofalodd am dano cystal am flynyddoedd fel na byddai ddim
yn digwydd yno heb fod gan f’ewythr baragraff am dano yn y papur—y
“Newyddiadur,” fel y byddai o yn ei alw. Yr oedd gan yr hen greadur fath
o law ferr at ei wasanaeth, un na fedrai neb ei deall ond efô ei hun. Yn
wir, byddai yn methu a’i deall ei hun ar brydiau, a chafwyd ambell
is-olygydd digon drwg i ddywedyd nad oedd wahaniaeth yn y byd rhwng ei
law ferr â’i law hir; ond yr wyf yn sicr mai ar yr is-olygydd a’r
cysodydd yr oedd y bai fod rhai o’i baragraffau yn awr ac yn y man yn
dyfod allan yn y papur yn hollol groes i’r hyn oedd ym meddwl fy ewythr.
Er engraifft, yr oedd o unwaith wedi ysgrifennu hanes marwolaeth a
chladdedigaeth hen gyfaill iddo, ac wedi ei orffen fel y canlyn,—
“Yr oedd yn noddwr cyson i’r _Corn_ ar hyd ei oes faith, ac yn
codi’r cann yng nghapel Seion. Heddwch i’w lwch, yr hen bererin
anwyl!”
Synnwyd pawb, pan gawsant y _Corn Gwlad_, weled y paragraff yn gorffen
fel hyn,—
“Yr oedd yn naddwr creulon i’r corn ar ei goes chwith, ac yn
cadw’r cnau yng nghawell Sion. Hed uwch ei lwch, yr hen Feri
Elin anwyl!”
Achosodd peth fel hyn gryn helynt lawer tro, wrth gwrs, ond er i
f’ewythr anfon i’r offis i gwyno lawer gwaith, ni welodd y cnafon yn dda
gymryd mwy o ofal gyda’i gopi nag a gymerasant o’r blaen.
Ond dyna, hwyrach, ar hyn o bryd, ddigon am fy ewythr. Awn at ei waith
yn ysgrifennu hanes helynt Langrymbo. Yr oedd hi yn lecsiwn yno, fel y
dywedwyd, ac aeth yn helynt mor erwin fel yr aeth y bobl yn benben. Yn
naturiol iawn, aeth fy ewythr ati i chwilio am achos y ffrae, cafodd hyd
iddo, ysgrifennodd ef yn ofalus a chywir ar gefn hen boster â phast
arno, ac anfonodd ef i’r swyddfa. Gallwn feddwl fod yr is-olygydd ar y
pryd yn rhy ddiog i’w ddarllen, canys y mae dalen o bapur gwyn wedi ei
phinio wrth y copi, ac yn ysgrifenedig arni mewn llaw led blaen y
geiriau hyn—“Dylai’r dyn a ysgrifennodd hwn gael ei grogi! ’Does yma
neb fedr ei ddeall.”
Collodd yr is-olygydd hwnnw ei gyfle. Yr wyf fi wedi darllen y copi. Ac
nid wyf fi yn is-olygydd. Felly, dylasai o fedru gwneud. Sut bynnag, y
mae’n debyg fod fy ewythr wedi digio a chadw ei gopi yn hytrach na’i ail
ysgrifennu a’i ddanfon i’r is-olygydd diog. Bellach, gellir yn ddiogel
gyhoeddi’r hanes, gan mai f’ewythr oedd y diweddaf o’r bobl y mae son am
danynt ynddo. Dyma fo, wedi ei godi air am air o gopi yr hen ddyn druan,
fel y gweler ei arddull lenyddol odidog,—
* * * * *
“Bu helynt ofnadwy yn nhref Langrymbo yr wythnos ddiweddaf parthed yr
etholiad, fel y cyhoeddwyd yn ein rhifyn diweddaf yn fyrr. Y pryd hwnnw,
nid oedd ein gohebydd mewn meddiant llawn o ffeithiau yr achos, ac o
ganlyniad i hynny nis gallai roddi hanes manwl a chywir am yr hyn a
gymerodd le yn y dreflan dawel hon. Erbyn hyn, y mae ein gohebydd wedi
gwneud ymchwiliad llwyr i’r achos, ac yn alluog i roddi ger bron ein
darllenwyr hanes cyflawn am yr hyn a ddigwyddodd.
* * * * *
“Fel y gwyddis, yr oedd yr etholiad ar ei ganol ar y pryd, ac yr oedd
teimladau yn rhedeg yn uchel iawn yn y dref. Yr oedd rhai yn pleidio’r
Rhyddfrydwr ac ereill yn pleidio’r Ceidwadwr yn selog. Ymddengygs fod
dau ddyn wedi cyfarfod ar yr heol noswaith yr helynt, ac wedi mynd i son
am bwnc llosgawl y dydd (a’r nos hefyd). Y ddau hynny oeddynt John
Dafis, Rhyddfrydwr pybyr, a Huw Jones, Tori rhonc, fel y dwedir. [Dylid
cofio mai Rhyddfrydwr oedd fy ewythr.] Dechreuasant ymddiddan fel y
canlyn,—
‘Sut mae hi heno, John Dafis? Be ydech chi yn feddwl o’r lecsiwn yma,
fel tae, rwan?’
‘Wel, rydw i’n meddwl i bod hi yn o bethma, yn siwr, arnoch chi y Toris
yma.’
‘Be sy arnom ni, fel tae, rwan, John Dafis?’
‘Wel, mi ddeyda iti, i hyn y daw hi, ac i hyn y mae hi ’n dwad hefyd.
Rydech chi yn rhy bethma o lawer.’
‘Y chi yr hen Wigs yma sy’n rhy bethma, fel tae, rwan. Fedrwch chi ddim
deyd yn bod ni felly.’
‘O, medrwn yn wir, Huw Jones!’
‘Wel, sut, ynte, fel tae, rwan?’
‘Wel, fel hyn. I hyn y daw hi ac i hyn y mae hi ’n dwad hefyd, weldi.
Rydech chi yn rhy bethma o lawer.’
‘Hefo beth, ynte, fel tae, rwan?’
‘Wel, hefo ’r naill beth a’r llall, ac fel hyn a fel arall. ’Does neb
ond y chi, ddylie dyn. Rydach chi yn deyd fel hyn a fel arall ac yn son
am y naill beth a’r llall, a phan fydd dyn yn gofyn cwestiwn go bethma i
chi, rydech chi yn ffeilio ateb, ac yn mynd ar hyd ac ar draws, ac yn
deyd hyn a’r llall, ac yn palu clwydde fel ceffyl dall ar dalar!’
‘Dyma chi, John Dafis, ryden ni yn hen gydnabod, ond yden ni, fel tae,
rwan?’
‘Yden, siwr, mewn ffordd o siarad, fel tase.’
‘Yden, waeth i chi ddeyd, rwan. Wel, peidiwch chi a mynd i siarad mor
bethma hefo fi am danon ni, rwan, fel tae, os gwelwch chi yn dda.’
‘Pwy oedd yn siarad yn bethma am danoch chi?’
‘Wel, y chi.’
‘Nag oeddwn!’
‘Wel, oeddech, medde finne!’
‘Wel, be ddeydis i, ynte?’
‘Deyd ddaru chi yn bod ni fel hyn ag fel arall, ac yn siarad ar hyd ag
ar draws, ac yn palu clwydde fel ceffyl dall ar dalar. Pa glwydde ryden
ni yn ’u palu, rwan, fel tae?’
‘Wel, mewn ffordd o siarad, rwan, rydech chi yn deyd pob math o bethe
mwya bethma fel hyn ac fel arall am hyn a’r llall ar draws ac ar hyd ac
ar draws i gilydd heb na phen na chynffon, ac yn mynd yn wysg ych trwyne
nad ŵyr neb ymhle i’ch cael chi, a wyddoch chi ddim gwahanieth rhwng y
naill beth a’r llall mwy na thwrch daear am yr haul!’
‘Caewch ych ceg, John Dafis!’
‘Chaea i moni hi i’ch plesio chi, Huw Jones!’
‘Rydw i’n deyd mai ffwl ydech chi, John Dafis!’
‘Choelia inne monoch chi, Huw Jones!’
‘Gwnewch chi fel y fynnoch chi am hynny, ynte, rwan.’
‘Mi wnaf, siwr, a gwnewch chithe, a pheidiwch a bod mor gegog!’
‘Rydech chi yn rhy bethma o beth cebyst, yn siwr i chi!’
‘Pwy sy’n bethma?’
‘Y chi, dyna pwy!’
‘Cymrwch hwnna!’
“Gyda’r gair, dyma Huw Jones yn rhoi dyrnod i John Dafis ynghanol ei
wyneb. Cyn pen dau funud, yr oedd John Dafis wedi ei dalu yn ol gyda
llog. Aeth yn ymladdfa wyllt, a chyn pen ychydig eiliadau, daeth tri neu
bedwar o ddynion ereill yno, sef Dafydd Gruffydd, Wil Ifan, Sion Puw, a
Ned Dafis. Gofynnodd Wil Ifan beth oedd yr helynt rhwng y ddau.
‘Deyd yn bod ni y Toris yn bethma ddaru o!’ ebe Huw Jones.
‘Ond ydech chi hefyd!’ ebe Wil Ifan yn ffyrnig.
‘Nag yden ni ddim, y chi, yr hen Wigs budron yma sy’n bethma!’ ebe Ned
Dafis (Ned un Llygad).
“Aeth yn ffrwgwd rhwng y chwech ar hynny, tri o honynt yn perthyn i bob
plaid. Yr oedd John Dafis a Wil Ifan yn gweiddi nerth eu pennau—‘Rydech
chi yn bethma, bob copa ohonoch chi!’ Ac ar yr ochr arall, yr oedd Huw
Jones a Ned un Llygad yn gweiddi â’u holl egni hwythau—‘Na, y chi sy’n
bethma, y cnafon gynnoch chi!’
“Daeth ereill yno ar ffrwst wrth glywed y swn, a deallasant mai ffrae
ydoedd rhwng y naill blaid a’r llall ynghylch pwy oedd yn bethma. Cyn
pen ychydig eiliadau, yr oedd y frwydr yn gyffredinol. Daeth yr
heddgeidwad i’r lle, ond ni fedrai wneud dim. Parhaodd yr ymladd am awr,
nes i’r blaid Geidwadol orfod cilio o’r ffordd, ac o dipyn i beth,
tawelodd y cyffro.
“Drannoeth, aeth ein gohebydd i’r dref i wneud ymchwiliadau, a chafodd
yr hanes fel yr adroddir ef uchod. Nid yw’r pleidiau eto wedi oeri, ac y
mae llawer yn ofni i’r helynt ail dorri allan. Mewn gwirionedd, mae yma
le go ‘bethma’ yn Llangrymbo y dyddiau hyn.”
Felly y cafwyd allan achos Ffrae Fawr Langrymbo. Ac eto, nid oes hyd
heddyw gof golofn ar fedd fy ewythr.
CAERNARFON:
CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),
SWYDDFA “CYMRU.”
“YMADAWIAD ARTHUR A CHANIADAU EREILL.”
Gan T. GWYNN JONES.
“Yn y gyfrol hon, rhoddodd i ni farddoniaeth a gyfoethoga lenyddiaeth y
genedl hyd fyth.”—_Y Genedl Gymreig._
“Y mae nwyf ac ysblander yn treiddio drwy bob gweledigaeth o’i
eiddo.”—_Y Faner._
“Y mae ôl meddwl a llaw meistr gwirioneddol ar ei waith.”—_Y Brython._
“Dyma gyfrol sydd yn sicr o gymeryd ei lle ymhlith clasuron telediwaf
llên Cymru.”—_Y Glorian._
“Bydd ei enw a’i waith byw cyhyd ag y oedwir y Brython mewn cof.”—_Y
Goleuad._
“Mor glir a manwl â darluniau Birket Foster, lle ceir pob deilen a phob
glaswelltyn wedi eu tynnu ar eu pen eu hun.”—_Cymru._
“The more personally moved he is, the more he moves his hearers.”—_The
Manchester Guardian._
“He has the light touch, the quaint fancy, the deep thought, the
appealing description and the noble imagination . . . of the true
Celt.”—_Cork Free Press._
“Do sholáthróghadh an iarracht soin gairm is clu dho a mhairfeadh an
fhaid a bheidh rae sa spéir.”—_Freeman’s Journal._
“Ez int taolennou hag a zo gwiriek evid ar bed Kuz-heoliek, rag piou
ahanomp n’en deuz gwelet eur wech bennag var e hent en den henvel ouz
‘Yr Hen Ffermwr,’ ‘Y Gweinidog,’ ‘Y Nafi?’”—_Ar Bobl._
Mewn llian hardd, gyda llun yr awdwr,
Pris 3s. 6c.
Archebion i’w danfon i Swyddfa “Cymru,”
Caernarfon.
* * * * *