‟TOMOS DAFIS, gawn ni air gynnoch chi i ddechre ar achos Huw?” ebr
William Huws, y pen blaenor, ar ol i Dafydd Cae Crwn ddechre’r seiat yn
y Capel Bach.
Yr oedd yno gynhulliad mwy nag arfer, a theimlid dyddordeb anghyffredin
yn y materion oedd i ddyfod gerbron y noswaith honno.
Yr oedd Gruffydd Jones i gael dechre pregethu neu beidio, yn ol fel y
penderfynai yr eglwys, ac yr oedd Idwal Wmffre i gael ei dorri allan.
Teimlai y bobl oreu ddyddordeb mawr yn yr achos cyntaf, a’r bobl symol
a’r cnafon fwy o ddyddordeb yn yr ail.
Yr oedd Gruffydd Jones wedi cael cennad i roi pregeth o flaen y
gynulleidfa y nos Sul cynt, ac ar bwys barn y bobl am honno y dibynnai a
gai ei achos fynd ymhellach ai peidio.
Yr oedd Idwal Wmffre wedi meddwi a mynd i drwbl waeth na hynny a thynnu
un arall i’w ganlyn, ac am hynny yr oedd yn rhaid ei ddiarddel.
“Dowch, Tomos Dafis,” ebr William Huws.
Yr oedd Tomos Dafis yn hir yn dechreu.
Ond o’r diwedd, cododd ar ei draed yng nghornel y set fawr. Crydd
ydoedd. Dyn bychan ag wyneb gwastad, hir ganddo; barf wedi ei thorri yn
weddol ferr; ei wefus uchaf wedi ei heillio yn lân; llygaid gleision,
bychain; talcen mawr a choryn moel.
“Wel,” eb efô, ac yr oedd ei lais rhwng cras a pheidio, “wel, rhaid i mi
ddechre, mae’n debyg. ’Roeddwn i yn disgwyl fy somi yn Gruffydd, waeth i
mi ddeyd y gwir na pheidio. Welis i erioed ddim byd neilltuol iawn ynddo
fo, er fy mod yn gwybod i fod o yn fachgen da. Un o’r bechgyn hynny sy’n
edrych weithie yn rhy dda i ryw greadur fel fi.”
Tawodd Tomos Dafis am ennyd. Yn ei ieuenctid, bu Tomos yn dipyn o
fraddug, ond bellach nid oedd amheuaeth am ei dduwioldeb.
“Mi fydda i,” meddai yn araf, “yn meddwl y dyle pregethwr fod yn gwybod
tipyn am demtasiyne’r bobol y bydd o yn mynd i bregethu iddyn nhw. Ni
chlywis i erioed gystal pregethu â phregethu ambell i hen bechadur go
ffyrnig wedi cael gras. Ond waeth heb fynd y ffordd yna heno. ’Roeddwn i
yn disgwyl fy siomi yn Gruffydd. Ac mi ges fy somi hefyd.”
Tawodd Tomos Dafis drachefn, ac yr oedd pawb bron yn dal eu hanadl. Yr
oedd Gruffydd wedi plesio pawb. Sut yr oedd Tomos Dafis wedi ei somi?
Dyna oedd ym meddwl pob dyn a dynes yno.
“’Roeddwn i,” ebr Tomos Dafis, yn araf, “yn disgwyl rhyw bregeth dila,
fel fyddwn ni yn arfer gael gan y bechgyn yma, gan Gruffydd, ond yn lle
hynny mi gawsom bregeth addawol dros ben gynno fo.”
Anadlodd pawb yn rhydd, ac aeth Tomos Dafis yn ei flaen.
“Yr oedd yn dda dros ben gen i gael fy somi, ar yr ochor ore,” ebr efô.
“’Rydw i yn meddwl y gwneiff yr hogyn bregethwr da. Mae gynno fo feddwl
yn perthyn iddo fo’i hun, a dawn i’w ddeyd o. Waeth i mi heb ddeyd
chwaneg. ’Roedd llawer o feie yn i bregeth o, mae’n siwr. Cofia di
hynny, Gruffydd, machgen i, a phaid a mynd i feddwl gormod ohonot dy
hun. Ond ’rydw i yn deyd yn dy wyneb di mod i wedi mhlesio yn fawr yn dy
sylwade di nos Sul. O’m rhan i, mi gei fynd yn dy flaen.”
Galwodd William Huws ar un arall o’r blaenoriaid, ac ar amryw o’r
aelodau, a chafwyd gan bob un ohonynt air da iawn i bregeth Gruffydd
Jones. Yr oedd pawb wedi synnu ato, ac yn harod iawn i roi pob
cefnogaeth iddo. Yr oeddynt yn sicr y byddai yn bregethwr mawr, ac yr
oedd y meddwl am godi pregethwr mawr yn y Capel Bach wrth fodd yr eglwys
i gyd. Rhoed y peth ger bron, a chafwyd pawb yn unfryd dros roi cennad i
Gruffydd Jones fyned rhagddo yn ol rheolau y cyfundeb. Rhoes William
Huws, Tomos Dafis, John Jones, ac Edward Williams, y blaenoriaid; a John
Parry a William Ffowcs, y ddau a gredai y dylasent hwythau fod yn
flaenoriaid ers blynyddoedd, res o gynghorion buddiol iawn iddo ar
ddechreu ei yrfa. Ac yr oedd cyngor William Huws yn un nodedig, fel
arfer.
“Gruffydd, machgen i,” eb efô, “’roeddwn i yn teimlo wrth wrando arnat
ti nos Sul fod gen ti rywbeth i’w ddeyd, a’th fod ti yn i ddeyd o fel ti
dy hun, ac nid fel rhwfun arall. Wel, dal di at hynny. Dyna’r unig
ffordd onest. ’Dalla i ddim aros y bobl yma sy heb ddim i’w ddeyd eu
hunain, y rhai sy’n byw ar ryw hanner deyd meddylie pobol ereill. Cadw
atat dy hun, beth bynnag wnei di, mi fyddi yn rhywbeth felly, goelia i.”
Yr oedd Gruffydd yn wylo yn dost wrth wrando ar y cynghorion hyn. Tybiai
llawer mai ei grefyddolder oedd yn peri iddo wylo, a thybiai ereill ei
fod yn teimlo dros Idwal, oedd i gael ei dorri allan, canys yr oedd y
ddau yn hen gyfeillion, wedi chware gyda’i gilydd, ac yn cydweithio yn y
gwaith mwyn.
Bu distawrwydd, ac yna cododd William Huws ar ei draed yn sydyn.
“Mae gynnon ni ddyledswydd arall,” meddai, “ac un gas ydi hi. Ond rhaid
gwneud dyledswyddau cas. Dylem eu gwneud hwyrach yn fanylach a mwy
gofalus na rhai fel arall. Waeth heb fynd i son llawer am y peth. Yr
ydech chi i gyd yn gwybod yr hanes. Mae Idwal Wmffre, bachgen wedi ei
fagu yn y seiat yma, wedi troi yn fachgen drwg. Mae o wedi troi yn
feddwyn cyhoeddus, ac y mae o wedi tynnu un arall i’w ganlyn i drwbwl,
ond ’does a wnelo ni yma ddim â’r un honno. Yr oedden ni yn disgwyl
llawer oddiwrth Idwal. Gwyddem fod ei dad a’i fam yn dalentog, a chawsom
brofion ei fod ynte yn meddu doniau nodedig iawn. Clywais un o’n
gweinidogion sy’n fardd yn dywedyd y gwnai Idwal ei farc os ceisiai. Ond
y mae o ar y llwybr drwg. Mae’n boen i mi feddwl am i dorri fo allan, yn
boen fawr. Ond ’does dim arall i’w wneud. Rhaid i ddiarddel o.”
Cododd Tomos Dafis yn araf. Yr oedd golwg ryfedd ar ei wyneb.
“Wel,” meddai, “mewn un ffordd, mi faswn yn hoffi medru amddiffyn Idwal.
Mae o ar lawr, ac yr ydym ninnau yn mynd i’w gicio allan. ’Does mo’r
help. Rhaid gwneud hynny, Eto, cofiwn nad ydi’n dyledswydd ni ddim yn
darfod wedi i ni i droi o dros y drws. Gadewch i ni geisio i ddwyn o yn
i ol, ac os medrwn ni, mi wneiff well dyn, ’dydw i yn ame dim, na phe
base fo erioed heb lithro.”
Bu distawrwydd drachefn. Yr oedd Gruffydd yn wylo o hyd. Yr oedd Idwal
yn edrych yn graff ar Tomos Dafis, ond nid oedd ddeigryn yn ei lygad o.
Edrychai pawb arno yn eu tro, ond nid oedd Idwal yn newid ei wedd nac yn
gwingo o gwbl. Yr oedd rhai eisoes yn dechreu teimlo ei fod yn wyneb
galed, ac yn haerllug iawn, ac ereill yn rhyw gydymdeimlo âg o, ar eu
gwaethaf.
“Oes gen ti rywbeth i’w ddeyd dy hun, Idwal?” ebr William Huws.
“Oes, lawer,” ebr Idwal, “ond waeth i mi heb i ddeyd o chwaith.”
“Pam? Os oes rhywbeth ar dy feddwl di, dywed o.”
“Ie siwr,” ebr Tomos Dafis.
“Wel,” ebr Idwal, “waeth i mi heb geisio f’amddiffyn fy hun. ’Roeddwn i
ar fai. Ond nid ar gymaint o fai ag yr ydech chi yn meddwl ychwaith.
Mae’n ddrwg gen i am y meddwi, ond am yr helynt arall, wel waeth i mi
dewi.”
“Na waeth,” ebr William Huws, yn gwta. “Waeth i ni orffen. Gwnewch yr
arwydd arferol, bawb sydd o’r farn mai diarddel Idwal a ddylem.”
Cododd pawb ei law ond Gruffydd Jones.
“Gruffydd,” ebr William Huws, “mi welaf nad wyt ti ddim yn codi dy law.
Beth ydi dy reswm di?”
“Fedra i ddim!” meddai Gruffydd, a thorrodd i wylo yn chwerw iawn.
“Wel, mae’r ddau yn hen gyfeillion o’u mebyd,” ebr Tomos Dafis.
“Ydyn, ’does mo’r help,” ebr William Huws; “ond cymer di ofal,
Gruffydd!”
Mewn distawrwydd, torrwyd Idwal allan, a gorffennwyd y cyfarfod yn fyrr
gan William Huws ei hun.
Yr oedd hi wedi tywyllu erbyn i’r bobl fynd allan o’r capel. Ar ol
siarad â’r blaenoriaid a’i gael ei hun yn rhydd o’r diwedd, rhedodd
Gruffydd ar ol Idwal, a daliodd ef ar gwrr y dref yn mynd tua chartref
yn araf.
“Idwal,” eb efô, “fedri di fadde i mi, dywed?”
“Am be, Guto? Ti oedd yr unig un safodd drosta i.”
“Ie, ac mi ddylswn inne gael fy nhorri allan hefo thdi.”
“Pam, Guto?”
“Wel, mi wyddost!”
“Na wn i yn siwr. ’Dwyt ti ddim wedi meddwi na dim arall.”
“Nag ydw. Ond y bregeth!”
“O, paid a phoeni! Oni bae dy fod di mor gynhyrfus, mi wnaethet un lawer
iawn gwell dy hun.”
“Na wnaethwn byth.”
“O gwnaethet.”
“Choelia i ddim, Idwal. Ac ’rydw i wedi eu twyllo nhw i gyd! Mi
gyfaddefaf y cwbwl eto.”
“Paid a bod yn ffwl. Wnes i ddim ond taclu tipyn ar dy syniade di dy
hun, ac yr oedd yn hawdd i mi wneud hynny am fy mod i yn medru cadw fy
mhen yn oer. Taset tithe heb fod mor gynhyrfus mi faset yn medru gwneud
gwell gwaith na fi ar fy ngore.”
“Wyt ti yn siwr, Idwal?”
“O ydw, yn siwr iawn! Dal di ati hi. Wnes i ddim. Paid a bod yn ffwl
’rwan. ’Rwyt ti ar ben y llwybr.”
“Ond i ble yr ei di?”
“Wn i ddim. Hwyrach y do i yn fy ol eto. Pwy a ŵyr?”
“Ie, tyrd yn dy ol, Idwal!”
“Mi gawn weld. Hwyrach. Nos dawch, Guto.”
“Nos dawch, Idwal.”
Aeth blynyddoedd heibio, ac aeth Gruffydd yn ei flaen. Ond nid ymhell.
Siomodd bawb yn fuan. Ei bregeth gyntaf oedd ei un bregeth addawol. Cwbl
ddilewyrch oedd y lleill i gyd. Ni wnaeth argraff ar neb, a methodd a
gwneud dim ohoni yn ei arholiadau. Eto, rywfodd, cripiodd yn ei flaen
hyd ei lwybr, a daeth yn bregethwr o ryw fath er gwaethaf pob anhawster.
Ond ni byddai byth yn cael galwad, na llawer o gyhoeddiadau ychwaith.
Methiant truenus ydoedd, ac ni fedrodd neb byth egluro ei un bregeth
lwyddiannus.
Ac Idwal? Aeth o ddrwg i waeth.
Ar lan ei fedd, gweddiodd Gruffydd Jones nes oedd pawb yn wylo, ac aeth
a’i ddau blentyn bach amddifad gydag ef oddi yno i’w gartref ei hun.
“Chware teg iddo!” meddai ’r bobl.
_Vox populi, vox Dei!_