RHAGAIR.

FEALLAI nad oes nemor gamp ar y torri a’r gwnïo, ond am y brethyn, y mae

hwnnw cystal â dim sydd ar y farchnad. Gallaf roddi fy ngair trosto,

canys nid myfi a’i gwnaeth, ond Natur. Am hynny, pe bae’r grefft cystal

â’r deunydd, fe dalai’r Brethyn at hirddydd haf a hirnos gaeaf. Fel y

mae, hwyrach y gwasanaetha ambell awr na bo’i amgenach wrth law, ryw ran

o’r pedwar amser.

Brethyn Cartref: Ystraeon Cymreig · 第 5 / 35 题