Lleucu Llwyd ydoedd rian rinweddol, nodedig am ei glendid a'i
phrydferthwch, yn byw yn Mhennal, ar lan yr afon Dyfi, oddeutu pedair
milltir o Aberdyfi, ar ffordd Machynlleth, yn y 14eg canrif. Cerid hi a
chariad pur gan LLEWELYN GOCH AP MEIRIG HEN, o'r Nannan, gerllaw
Dolgellau. Ond nid oedd ei thad mewn un modd yn foddlawn i'r garwriaeth,
ac achubai bob cyfle i yru annghariad rhwng Lleueu a Llewelyn. Un tro,
dygwyddodd i Lewelyn Goch fyned ar daith i'r Deheubarth, a daeth ei thad
at Lleucu, adywedodd wrthi, er mwyn diddyfnu ei serch oddiar y bardd, fod
Llewelyn wedi ymbriodi yno a merch arall. Pan glywodd Leucu yr ymadrodd
byn, hi a syrtbiodd mewn llewyg, ac a drengodd yn y fan! Dychwelodd
Llewelyn adref; ac ofer ceisio darlunio ei deimladau pan ddeallodd fod
hyfrydwch ei lygaid wedi huno yn yr angau; a than ei deimladau cyffrous
ar yr achlysur, efe a gyfansoddod yr alarnad ganlynol, am yr hon, er holl
gloffrwymau'r gynghanedd gaeth, y gellir dywedyd, megys y dywedodd Daniel
Ddu am alargwyn Burns ar farwolaeth ei _Highland Mary_, mai cerdd ydyw a
fydd byw nes bo i holl dyrau, dawn syrthio i lynclya annghof tragwyddol.
Yr oedd yr anffodus Lewelyn Goch yn fardd penigamp yn ei ddydd; a
chyfrifir ei fod yn ei flodau o'r flwyddyn 1330 i 1370. Argraffwyd
chwech o'i gyfansoddiadau yn y gyfrol gyntaf o'r _Myfyrian Archaiology of
Wales_; ac y mae amryw o bonynt yn aros hyd yn hyn mewn llawysgrifen heb
weled goleuni dydd. Nid ydys yn gwybod fod yr alarnad a ganlyn wedi ei
bargraffu erioed o'r blaen. Y mae yn ein meddiant gyfieithiad Saesonig o
honi mewn rhyddiaeth, o waith Ieuan Brydydd Hir; ac efelychiad o fesur
cerdd, yn yr un iaith, o waith y diweddar Risiart Llwyd, Bardd Eryri.
Ysgrifenwyd marwnad Llewelyn Goch ei hun gan Iolo Goch.
Y mae, neu o leiaf yr oedd, caead arch un Lleucu Llwyd, yr hon a fu farw
yn y flwyddyn 1402, i'w weled yn Eglwys Llaneurgain, yn ar Fflint; ond
nid ymddengys mai Lleucu Llwyd o Bennal yw y rhian a goffeir yno. Yr
oedd Lleucu Llwyd Llaneurgain yn ferch i Rys ab Rhobert, o'r Cinmael, ac
yn wraig i Hywel ab Tudur, o'r Llys, ynmhlwyf Llaneurgain, ac yn nith i'r
bardd Dafydd Ddu o Hiraddug. Hywel ab Tudur ydoedd un o henafiaid y
teuluoedd presenol sy'n dwyn yr enw _Mostyn_.
Y mae _Llewelyn a Lleucu_, yn gystal testyn cerdd a _Romeo and Juliet_;
ond, pa le mae'r Shacspear Cymraeg i ysgrifenu trychwawd arno?--_Y
Brython_.
Llyma haf llwm i hoew-fardd,
A llyma fyd llwm i fardd!
Nid oes yng Ngwynedd heddiw,
Na lloer, na llewyrch, na lliw,
Er pan rodded--trwydded trwch--
Dan lawr dygn dyn loer degwch.
Y ferch wen o'r dderw brenol,
Arfaeth ddig yw'r fau o'th ol!
Cain ei llun, canwyll Wynedd,
Cyd bych o fewn caead bedd!
F' enaid! cyfod i fynu,
Agor y ddaiar-ddor ddu!
Gwrthod wely tyfod hir,
A gwrtheb f' wyneb, feinir!
Mae yma, hoewdra hydraul,
Uwch dy fedd, hoew annedd haul,
Wr llwm ei wyneb hebod,
Llewelyn Goch, gloch dy glod;
Yn cynnal, hyd tra canwyf,
Cariad amddifad ydd wyf;--
Ud-fardd yn rhodio adfyd
O Dduw gwyn! hyd hyn o hyd.
Myfi, fun fwyfwy fonedd,
Echdoe a fum uwch dy fedd,
Yn gollwng deigr lled eigr-braff
Ar hyd fy wyneb yn rhaff:
Tithau, harddlun y fun fud,
O'r tew-bwll ni'm hatebud!
Tawedawg ddwysawg ddiserch,
Ti addawsud, y fud ferch,
Fwyn dy sud fando sidan,
Fy aros, ddyn loew-dlos lan,
Oni ddelwn, gwn y gwir,
Er dy hud, o'r Deheudir,
Ni chigle, sythle saeth-lud,
Air na bai wir, feinir fud,
Iawn-dwf rhianaidd Indeg,
Onid hyn o'th eneu teg.
Trais mawr! ac ni'm tawr i ti!
Toraiat ammod, trist imi,
Tydi sydd yn y gwydd gwan
Ar y gwir, ddyn deg eirian!
Minnau sydd uthrydd athrist
Ar y celwydd--tramgwydd trist!
Celwyddawg iawn, cul weddi,
Celwydd lais a soniais i.
Mi af o Wynedd heddyw,
Ni'm dawr ba faenawr i fyw:
Fy myn foneddig ddigawn,
Duw'n fach, petid iach nid awn!
P'le caf, ni'm doraf dioer,
Dy weled, wendw' wiw-loer?
Ar fynydd--sathr Ofydd serch--
Olifer, yn oleu-ferch.
F' enaid yno a'n fynych,
O'th wela', ddyn wiwdda wych.
Lleucu deg waneg wiwnef!
Llwyr y dyhaeraist fy llef;
A genais, llygorn Gwynedd!
Eiriau gwawd i eiry 'i gwedd,
O'r geneu yn organawl,
A ganaf, tra fyddaf, fawl.
F' enaid hoen geirw afonydd!
Fy nghaniad dy farwnad fydd.
Lliw-galch rian oleugain,
Rhy gysgadur o'r mur main!
Rhiain fain, rhy anfynych
Y'th wela'; ddyn wiwdda wych.
Cyfod i orphen cyfedd,
I edrych a fynych fedd;
At dy fardd ni chwardd ychwaith,
Erot, dal euraid dalaith!
Dyred, ffion ei deurudd,
I fyny o'r pridd-dy prudd!
Anial yw f' ol, canmoleg,
Nid twym yw fy neudroed teg,
Yn bwhwman gan annwyd
Cylch drws dy dy, Lleucu Llwyd!
A genais, lygorn Gwynedd,
O eiriau gwawd i eiry 'i gwedd,
Llef dri-och, llaw fodrwy-aur,
Lleucu! llawenu lliw aur.
Cymhenaidd, groew, loew Leucu!
Ei chymmyn, f' anwyl-fun, fu
Ei henaid, grair gwlad Feiriawn,
I Dduw Dad--addewid iawn;
A'i mein-gorff, eiliw'r mangant,
Meinir, i gyssegr-dir sant:
Dyn pell-gwyn doniau peill-galch,
A da byd i'r gwr du balch;
A'r hiraeth, cywyddiaeth cawdd,
I minnau a'i cymmynawdd.
Lleddf ddeddf ddeuddaint ogyfuwch,
Lleucu Llwyd, lliw cawod lluwch!
Pridd a main, glain galar chwerw,
A gudd ei deurudd, a derw.
Gwae fi drymder y gweryd
A'r pridd ar feistres y pryd!
Gwae fi fod arch yn gwarchae,
A thy main rhof a thi mae!
Gwae fi, ferch wen o Bennal,
Brudded yw briddo dy dal!
Clo du derw--galar chwerw gael--
A daiar, deg ei dwyael!
A throm-goed ddor, a thrym-gae,
A llawer maes, rhof a'i lliw mae;
A chlyd fur, a chlo dur du,
A chlicied--yn iach, LEUCU!