V.

Cyfarchaf i Dduw o ddechrau moliant,

Mal i gallwyf orau,

Clodfori o'r gwyr a geiriau

I'm pen, y penaf a giglau,

Cynnwrf tan, lluch faran llechau,

Cyfnewid newydd las ferau,

Cyfarf wyf a rhwyf, rhudd lafnau yngnif,

Cyfoethawg gynnif cynflaen cadau.

_Llewelyn_ nid llesg ddefodau,

Llwybr ehang, ehofn fydd mau,

Llyw yw hyd _Gernyw_ aed garnedd i feirch,

Lliaws ai cyfeirch, cyfaill nid gau,

Llew _Gwynedd_ gwynfeith ardalau,

Llywiawdr pobl, _Powys_ ar _Dehau_,

Llwyrwys caer, yn aer, yn arfau,

_Lloegr_ breiddiaw am brudd anrheithiau,

Yn rhyfel, ffrwythlawn, dawn diammau,

Yn lladd yn llosci yn torri tyrau,

Yn _Rhos_ a _Phenfro_, yn rhysfaau _Ffrainc_,

Llwyddedig i ainc yn lluyddau.

Hil _Gruffydd_, grymmus gynneddfau,

Hael gyngor, gyngyd wrth gerddau,

Hylathr i ysgwyd, escud barau gwrdd,

Hylym yn cyhwrdd cyhoedd waedffrau.

Hylwrw fwrw far, gymmell trethau,

Hawlwr gwlad arall gwledig riau,

Harddedd o fonedd, faen gaerau dreisddwyn,

Hirbell fal _Fflamddwyn_ i fflamgyrchau.

Hwylfawr ddreig, ddragon cyfeddau,

Heirdd i feirdd ynghylch ei fyrddau,

Hylithr i gweleis ddydd golau i fudd,

Ai feddgyrn wirodau.

Iddaw i gynnal cleddyfal clau,

Mal _Arthur_ wayw dur i derfynau,

Gwir frenin _Cymru_ cymmreisc ddoniau,

Gwrawl hawl boed hwyl o ddehau.

Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards · 第 45 / 98 题