_Owain Cyfeiliog e hun ai cant_.
Gwawr pan ddwyre gawr a ddoded,
Galon yn anfon anfudd dynged,
Geleurudd ein gwyr gwedi lludded trwm,
Tremit gofwy mur _Maelawr Drefred_.
Deon a yrrais dygyhyssed,
Diarswyd a'r frwydr arfau goched,
A rygoddwy glew gogeled rhagddaw,
Gnawd yw oi ddygnaw ddefnydd codded!
Dywallaw di fenestr gan foddhaed,
Y corn yn llaw _Rhys_ yn llys llyw ced,
Llys _Owain_ ar braidd yt ryborthed erioed,
Porth mil a glywi pyrth egored.
Menestr am gorthaw, nam adawed
Estyn y corn er cyd yfed,
Hiraethlawn am llyw lliw ton nawfed,
Hirlas i arwydd aur i dudded:
A dyddwg o fragawd wirawd orgred,
Ar llaw Wgan draws dros i weithred,
Canawon Goronwy, gwrdd gynnired gwyth,
Canawon hydwyth, hydr eu gweithred:
Gwyr a obryn tal ymhob caled,
Gwyr yngawr gwerthfawr gwrdd ymwared,
Bugelydd Hafren balch eu clywed,
Bugunat cyrn medd mawr a wna neued.
Dywallaw di'r corn argynfelyn,
Anrhydeddus, feddw, o fedd gorewyn,
Ac o'r mynni hoedl hyd un blwyddyn,
Na ddidawl i barch, can nid perthyn,
A dyddwc i Ruffydd waewruddelyn,
Gwin a gwydr goleu yn ei gylchyn,
Dragon Arwystli, arwystl terfyn,
Dragon Owain hael o hil Cynfyn,
Dragon iw dechreu, ac niw dychryn cat,
Cyflafan argrat cymwy erlyn.
Cetwyr idd aethant er clod obryn:
Cyfeddon, arfawc, arfau Edwyn,
Talassant i medd mal gwyr Belyn gynt,
Teg i hydrefynt tra bo undyn.
Dywallaw di'r corn, canys amcan cennyf,
Ydd ymgyrryw glyw gloyw ymddiddan,
Ar llaw ddehau ein llyw gyflafan,
Lluch y dan ysgwyd ysgawn lydan,
Ar llaw Ednyfet llawr diogan lew,
Ergyrwayw trylew, trei i darian.
Terfysc ddyffysc ddeu ddiofn anian,
Torrynt torredwynt uch teg adfan,
Teleirw yngbyngrein ynghyfran brwydr,
Tal ysgwyd eurgrwydr torrynt yn fuan:
Tryliw eu pelydr gwedi penwan,
Trylwyn yn amwyn amwiw Garthan.
Cigleu ym Maelawr gawr fawr fuan,
A garw ddisgyrr gwyr, a gwyth erwan,
Ac ymgynnull am drull am dramwyan,
Fal i bu ym Mangor am ongyr dan:
Pan wnaeth dau deyrn uch cyrn cyfrdan.
Pan fu gyfeddach Forach Forfran.
Dywallaw di'r corn, canys myfyr gennyf,
Men ydd amygant medd a'n tymmyr,
_Selif_ diarswyt orsaf _Gwygyr_,
Gogelet ai cawdd calon eryr!
Ac unmab _Madawc_, enwawg _Dudur_ hael,
Hawl bleiddiad, lleiddiad, lluch ar ysgyr,
Deu arwreidd, deu lew, yn eu cyngyr,
Deu arial dywal dau fab _Ynyr_,
Dau rydd yn nydd cad eu cyfergyr,
Cyfargor diachor camp diachyr,
Arfod llewod gwrdd, gwrddwan cadwyr,
Aer gunieid, lunieid, coch eu hongyr,
Treis erwyr yn ffwyr ffaw ehegyr,
Trei eu dwy aesawr dan un ystyr,
Gorfu gwynt gwaeddfan uch glan glasfyr,
Gorddwy clau tonnau _Talgarth_ ystyr.
Dywallaw di fenestr na fyn angau,
Corn can anrhydedd ynghyfeddau,
Hirlas buelin, breint uchel hen ariant,
Ai gortho nid gorthenau:
A dyddwg i _Dudur_, eryr aerau,
Gwirawd gyssefin o'r gwin gwinau,
Oni ddaw i mewn o'r medd gorau oll,
Gwirawd o ban, dy ben faddau,
Ar llaw _Foreiddig_, llochiad cerddau,
Cerddyn hyn i glod cyn oer adnau,
Dieithr frodyr fryd ucheldau,
Diarchar arial a dan dalau,
Cedwyr am gorug gwasanaethau,
Nid ym hyn dihyll nam hen deheu
Cynnifieid, gyrthieid, fleinieid, fleiddiau,
Cynfaran creulawn creulyd ferau,
Glew glyw _Mochnannwys_ o _Bowys_ beu:
O glew gwnedd arnaddunt deu,
Achubieit pob rheid, rhudd eu harfeu:
Echedwynt rhag terfysc eu terfynau,
Moliant yw eu rhann y rhei gwynnau;
Marwnad fu neud mi newid y ddau!
O chan Grist mor drist wyf o'r anaeleu!
O goll _Moreiddig_ mawr ei eissieu.
Dywallaw di'r corn can nim puchant,
Hirlas yn llawen yn llaw _Forgant_,
Gwr a ddyly gwawd gwahan foliant,
Gwenwyn y addwyn, gwan edrywant,
Areglydd defnydd dioddefiant llafn,
Llyfn i deutu llym ei hamgant.
Dywallaw di fenestr o lestr ariant,
Celennyg edmyg, can urdduniant,
Ar llawr _Gwestun_ fawr gwelais irdant,
Ardwy _Goronwy_ oedd gweith i gant,
Cedwyr cyfarfaeth ydd ymwnaethant,
Cad ymerbynieid, eneid dichwant,
Cyfarfu ysgwn ac ysgarant aer,
Llas aer, llosget maer ger mor lliant:
Mwynfawr o garcharawr a gyrchassant,
_Meurig fab Gruffydd_ grym ddarogant,
Neud oedd gochwys pawb pan atgorsant,
Neud oedd lawn o heul hirfryn a phant.
Dywallaw di'r corn ir cynnifieid,
Canawon _Owain_, cyngrein, cydneid,
Wynt a ddyrllyddant yn lle honneid,
Glud men ydd ant gloyw heyrn ar neid:
_Madawc_ a _Meilir_ gwyr gorddyfneid treis,
Tros gyferwyr gyferbynieid:
Tariannogion torf, terfysc ddysgeid,
Trinheion faon, traws ardwyeid.
Ciglau am dal medd myned dreig _Cattraeth_,
Cywir eu harfaeth, arfau lliweid,
Gosgordd Fynyddawc am eu cysgeid,
Cawssant y hadrawdd cas flawdd flaenieid;
Ni wnaeth a wnaeth fynghedwyr ynghalet _Faelor_,
Dillwng carcharor dullest foleid.
Dywallaw di fenestr fedd hidlaid, melus,
Ergyrwayw gwrys gochwys yn rheid,
O gyrn buelin balch oreuraid,
Yr gobryn gobrwyau henaid;
O'r gynnifer anhun a borth cynnieid
Nis gwyr namyn Duw ac ai dywaid.
Gwr ni dal ni dwng, ni bydd wrth wir,
_Daniel_ dreig cannerth, mor ferth hewir,
Menestr mawr a gweith yd ioleithir
Gwyr ni oleith lleith, oni llochir,
Menestr medd ancwyn a'n cydroddir,
Gwrdd-dan gloyw, goleu, gwrddloyw babir
Menestr gwelud dy gwyth yn Llidwm dir
Y gwyr a barchaf wynt a berchir.
Menestr gwelud dy galchdoed Cyngrein,
Ynghylchyn _Owain_ gylchwy enwir,
Pan breiddwyd Cawres, taerwres trwy dir,
Preidd ostwng orflwng a orfolir,
Menestr nam didawl, nim didolir,
Boed ym mharadwys in cynhwysir,
Can pen teyrnedd, poed hir eu trwydded,
Yn i mae gweled gwaranred gwir. AMEN.