Pan welais fod un o _Ysgodogion Ucheldir Alban_, ac hefyd _Sais_
dysgedig, wedi cyfieithu gwaith eu hen Feirdd i'r _Saesoneg_, mi a
dybygais mai nid gweddus i ni, y _Cymry_, y rhai sydd genym Gerddi
awduraidd, gorhenaidd, o'r einom, fod yn llwyr ddiymdro yn y cyngaws
hwnnw: o herwydd, hyd i gwn i, dyna'r unig ragorgamp celfyddyd a adawodd
ein hynafiaid ini, sydd heb ei cholli. I mae _gwaith y Derwyddon_, od
oedd dim gwiwgof ganddynt wedi ei ysgrifennu, wedi myned ar ddifancoll;
ac nid oes dim wedi dyfod i'n hoes ni oddiwrthynt, ond y Brydyddiaeth yn
unig. I mae ein hen _Fusic_ wedi ei llwyr ebargofio: nid yw'r cyweiriau
cwynfanus sydd genym yr awron ond dychymmygion diweddar, pan oedd y
_Cymry_ yn griddfan tan iau galed y _Saeson_. Am gelfyddydau eraill, od
oedd dim mewn perffeithrwydd, i mae gwedi ei lwyr golli. Nid oes genym
ddim hanes am ein hynafiaid o'n hawduron ein hunain, ond oddiwrth y
Beirdd yn unig, o flaen _Gildas ap Caw_; yr hwn sydd yn ein goganu, ac yn
ein llurginio, yn hytrach nag ysgrifennu cywir hanes am danom; ond fo wyr
hanesyddion yr achos: heblaw hyn, i mae ei waith ef wedi myned drwy
ddwylo'r _Meneich_; gwyr a fedrai yn dda ddigon dylino pob peth i'w
dibenion eu hunain.--Y Beirdd, fal i tystia _Giraldus_, Arch-diacon
_Brycheiniog_, oeddynt yn cadw achau y Brenhinoedd, ac yn coffau eu
gweithredoedd ardderchog; ac oddiwrthynt hwy yn ddiammau i deryw i
_Dysilio_ fab _Brochwel Ysgythrog_, tywysog _Powys_, ysgrifennu'r _hanes_
sydd yr awron yn myned tan enw BRUT Y BRENHINOEDD, yr hwn a ddarfu i
_Galfrid ap Arthur_, o Aber Mynwy, ei gyfieithu o iaith _Llydaw_ i'r
_Lladin_, ac oddiyno yn _Gymraeg_; fel i mae ef ei hunan yn cyfaddef mewn
amryw hen gopiau ar femrwn, sydd etto i'w gweled yng Nghymru; ond
ysywaith, e ddarfu iddo chwanegu amryw chwedlau at hanes _Tysilio_:
_Flamines_ ac _Archiflamines_, a phrophwydoliaeth _Myrddin Emrys_, a
phethau eraill a fuasai harddach eu gadael heibio. Ped fuasai yn dilyn y
Beirdd, e fuasai genym gywirach hanes nag sydd genym yr awron: ond fel ag
i mae, ni haeddai yn gwbl mo'r gogan i mae'r _Saeson_, o amser _Camden_,
yn ei rhoi iddi; o herwydd i mae _Nennius_, yr hwn a ysgrifennodd
drychant o flynyddoedd o'i flaen, yn rhoddi yr un hanes am ein dechreuad.
Ir wyf yn amcanu, os Duw a rydd im' hoedl ac iechyd, osod allan yr awdur
hwn a nodau helaeth arno, gyd ag amddiffyniad o'r hanes; o herwydd efe
yw'r hanesydd hynaf a feddwn yn _Lladin_, oddigerth y _Gildas_ uchod, yr
hwn nid yw deilwng ei gyfrif yn hanesydd; o herwydd nid dyna ei gyngyd
na'i fympwy, yn ei _Epistolae de excidio Britanniae_. Ir wyf yn methu a
chaffael copi iawn o _Nennius_, ac ir wyf yn meddwl nad oes un yng
Nghymru a dal ddim, ond yn _Hengwrt_: da iawn er lles y wlad a
hanesyddion _Prydain_, i gwnai ei berchennog adael i ryw wr dysgedig ei
gymharu. I mae genyfi ddau gopi, ond i maent yn dra ammherffaith; felly
hefyd i mae'r rhai printiedig, o eiddo'r Dr. _Gale_ a _Bertram_. Ni wiw
i _Sais_, na neb dieithr, bydded mor ddysgedig ag i mynno, oni ddeall ef
Gymraeg yn iawn, ac oni chaiff hefyd weled ein hen ysgrifenadau a'n
Beirdd ni, gytcam a'r fath waith. Nid yw _Camden_, er dysgedicced,
diwytted, a manyled gwr ydoedd, ond ymleferydd am lawer o bethau yn ei
_Britannia_; a hyny yn unig, o achos nad oedd yn medru yr iaith yn well.
A gresyn yw, nad oedd y _Saeson_, y rhai oeddynt yn ddiau (rai o naddunt)
yn chwilio pethau yn deg, ac yn ddiduedd dros ben, y cyfryw ag ydoedd
_Leland_, _Usher_, a _Selden_, yn deall ein iaith, a medru gwneuthur
defnydd o'n hen lyfrau: o herwydd hyn, nid oeddynt, er cymaint eu dysg
a'u dawn, ddim i'w cyffelybu ag _Wmffre_ _Llwyd_ o _Ddinbych_, a _Rhobert
Fychan_ o'r _Hengwrt_, fel i mae eu gwaith yn eglur ddangos. Ac yn
ddiau, mae yn ammhosibl i undyn, bydded mor gywreinied ag i myno,
wneuthur dim a ffrwyth ynddo, heb gaffael gweled yr hen ysgrifenadau,
sydd yn gadwedig yn llyfr-gelloedd y boneddigion yng _Nghymru_; yn
enwedig yn _Hengwrt_, a _Llan Fordaf_. Myfi a welais, ac a gefais
fenthyg amryw lyfrau o waith llaw, yn llyfrgrawn yr anrhydeddus _Robert
Davies_, ysgr. o _Lannerch_ yn Swydd _Dinbych_; a Sir _Roger Mostyn_ yng
_Ngloddaith_, seneddwr dros Swydd _Flint_; a chan yr anrhydeddus _William
Fychan_, ysgr. o _Gors y Gedol_, seneddwr dros Swydd _Feirionydd_; yr hyn
ni fedraf lai na'i fynegu yma yngwydd y byd, er coffau eu cymmwynas a'u
hewyllys da i'n gwlad a'n iaith, ac i minnau hefyd; yn ol arfer
canmoladwy, a haelioni yr hen _Frython_ gynt.
Ond i ddyfod weithion at y Beirdd, yr rhai a adawsom ar ol. Ef a ddarfu
imi gyfieithu ychydig odlau o'u gwaith, trwy annogaeth gwyr dysgedig o
_Loegr_; ac mi a ewyllysiwn wneuthur o honof hynny er clod iddynt; ond i
mae yn rhaid im' adael hynny ym marn y darllenyddion: ac nid oes genyfi
ddim i'w ddywedyd, os drwg yw'r cyfieithiad, nad arnaf i yn llwyr i mae'r
bai yn sefyll; o herwydd i maent y Beirdd yn ddiammau yn orchestol
odiaeth; ond i mae'n rhaid addef hefyd eu bod yn anhawdd afrifed eu
deongli, o herwydd eu bod yn llawn o eiriau sydd yr awron wedi myned ar
gyfrgoll: ac nid ydynt wedi eu heglurhau mewn un Geiriadur argraffedig
nac ysgrifenedig a welais i. Ir oedd yr Athraw hynod o _Fallwyd_, yr hwn
a astudiodd yr iaith er lles cyffredin y wlad, dros holl ddyddiau ei
einioes, yn methu eu deongli. Ac ni wnaeth y dysgedig Mr. _Edward Llwyd_
o'r _Musaeum_, gamp yn y byd yn y perwyl yma, er ei fod yn gydnabyddus a
holl geinciau prifiaith _Prydain_. Ac yn ddiau o'r achos yma, nid oedd
genyfi ddim ond ymbalfalu am ystyr a synwyr y Beirdd, mewn llawer man,
oddiwrth flaen ac ol. Ir wyf yn rhyfeddu'n ddirfawr am rai o'r _Cymry_
sydd yn haeru fod gwaith _Taliesin_, a'i gydoesiaid _Aneurin Gwawdrydd_,
_Llywarch Hen_, a _Merddin Wyllt_, yn hawdd eu deall. Yn ddiau nid wyf i
yn deall mo honynt, ac i mae'r rhai dysgediccaf yn yr iaith, y to heddyw,
yn addef yr un peth. I mae'r Beirdd, hir oesoedd gwedi hyny, sef ar ol
dyfodiad _Gwilym Fasdardd_, hyd farwolaeth, _Llywelyn ap Gruffydd_, yn
dywyll iawn; fal i gellwch weled oddiwrth yr odlau sydd yn canlyn. Hyn a
barodd i mi beidio a chyfieithu chwaneg o honynt y tro yma, rhag ofn imi,
trwy fy anwybodaeth, wneuthur cam a hwynt. Ond gan i'r _Saeson_ daeru,
na feddwn ddim mewn prydyddiaeth a dal ei ddangos; mi a wnaethum fy
ng'orau er cyfieithu y Casgliad bychan yma, i fwrw heibio, os yw bossibl,
y gogan hwnnw: ac yn ddiau, os na wyddodd genyf wneuthur hyny, i mae yn
rhaid i'r Beirdd, a'm cydwladwyr, faddeu imi; a gobeithio i derbyniant fy
ewyllys da, herwydd na ddichon neb wneuthur ond a allo.--Heblaw hyn oll,
i mae hyn o waith yn dyfod i'r byd, mewn amser anghyfaddas i ymddangos
mewn dim prydferthwch; o herwydd i mae un o drigolion yr _Uch Alban_,
gwedi gosod allan ddau lyfr o waith _Ossian_; hen Fardd, meddai ef, cyn
dyfod Cristianogaeth i'w plith. Ac i mae'r llyfrau hyn mewn rhagorbarch
gan foneddigion dysgedig y _Saeson_. A rhaid addef eu bod wedi eu
cyfieithu yn odidog: ond i mae arnafi ofn, wedi'r cwbl, fod yr _Ysgodog_
yn bwrw hug ar lygaid dynion, ac nad ydynt mor hen ag i mae ef yn taeru
eu bod. I mae'r _Gwyddelod_ yn arddelw _Ossian_ megis un o'u cydwladwyr
hwynt; ac i mae amryw bethau yn y cerddi a gyhoeddwyd yn ei enw, yn
dangos, yn fy nhyb i, oes ddiweddarach nag i mae'r cyfieithydd yn son am
dani; yn enwedig dyfodiad Gwyr _Llychlyn_ i'r _Iwerddon_, yr hyn ni
ddigwyddodd, meddai hanesyddion yr _Iwerddon_, cyn y flwyddyn 700. Ac ni
ddaeth yr _Ysgodogion_ chwaith i sefydlu yn yr _Alban_, o flaen _Fergus
Mac Ein_, ynghylch y flwyddyn 503; fal i mae _William Llwyd_, Esgob
_Caerwrangon_, wedi ei brofi yn ddiwrthadl, yn ei lyfr ynghylch
llywodraeth eglwysig. Ond pei canniatteid eu bod hwy yno cyn hynny, ni
fyddai hynny ronyn nes i brofi _Ossian_ mor hyned ag i dywedir ei fod. O
herwydd ped fuasai, pa fodd i mae ei gyfieithydd yn medru ei ddeongli mor
hyfedr? I mae gwaith ein Beirdd ni, sydd gant o flynyddoedd ar ol hynny,
tu hwnt i ddeall y gwir cywreiniaf a medrusaf yn yr hen _Frutaniaith_.
Pwy o honom ni a gymerai'r _Gododin_, gwaith _Aneurin Gwawdrydd_,
Fychdeyrn Beirdd, a'i gyfieithu mor llathraidd ag i gwnaeth cyfieithydd
_Ffingal_ a _Themora_? Ir wyfi yn meddwl nad oes neb a ryfygei gymmeryd
y fath orchest arno. Prin iawn i medreis i ddeongli rhai pennillion o
hono yma a thraw, y rhai a ellwch eu gweled yn y traethawd _Lladin_
ynghylch y Beirdd. A gresyn yw ei fod mor dywyll, o herwydd, hyd ir wyf
fi yn ei ddeall, gwaith godidog ydyw. Yr un peth a ellir ei ddywedyd am
_Daliesin_ Ben Beirdd, nid oes neb heddyw, hyd i gwn i, a fedr gyfieithu
yn iawn un o'i Awdlau na'i Orchanau. Myfi a wn fod amryw Frudiau ar hyd
y wlad, wedi eu tadogi ar _Daliesin_ a _Myrddyn_; ond nid ydynt ond
dychymygion diweddar, gwedi eu ffurfeiddio ar ol marwolaeth _Llywelyn ap
Gruffydd_. Yn enwedig yn amseroedd terfysglyd _Owain Glyndwr_, a'r
ymdrech rhwyg pleidiau _Efrog_ a _Lancaster_. I mae hefyd eraill, gwedi
eu lluniaethu gan y Meneich, i atteb eu dibenion hwythau; ond i mae'r
rhain oll yn hawdd eu gwahanu oddiwrth awduraidd waith _Taliesin_, wrth
yr iaith.--I mae yn ddiammau genyf, fod y bardd yma yn odidog yn ei
amser. Ir oedd yn gydnabyddus ag athrawiaith y _Derwyddon_ am y [Greek
text], a'r Daroganau, y rhai oeddynt yn ddiammau, weddillion o'r Credo
paganaidd; canys nid yw daroganu ddim arall ond mynegi pethau i ddyfod,
oddiwrth y _Ddar_, yr hon ir oeddynt y _Derwyddon_ yn ei pherchi yn fawr
iawn. A chan ei fod ef yn wr llys, ac yn byw yn yr oes anwybodus honno,
ir oedd yr hyn a ddywedai yn cael ei dderbyn a'i roesawu gan y gwerinos,
megis ped fuasai wir broffwyd. A hynny a ellir ei ddywedyd hefyd am
Ferddin Emrys, a'i broffwydoliaeth. Mor anhawdd yw tynnu ofergoelion eu
hynafiaid, oddiwrth un wlad neu genedl!
E ddichon rhai o honoch ysgatfydd ofyn, Paham na buaswn yn cyfieithu rhai
o'r Beirdd godidog diweddar, a ysgrifenasant wedi diwygio yr hen
gynghanedd? I'r rhain ir wyf yn ateb, fod y Beirdd yn amser y tywysogion
yn fwy ardderchog a mawryddig yn eu gwaith; ac ir oeddynt eu hunain, rai
o naddunt, yn dywysogion, ac yn wyr dyledogion; yn enwedig, _Owain
Cyfeiliog_, tywysog _Powys_; a _Hywel ap Owain Gwynedd_, Bardd a rhyfelwr
godidog: ac felly ir oeddynt yn fwy penigamp na'r Beirdd diweddar, o ran
eu testunau. Canys ir oedd y Beirdd diweddar, fel i mae _Sion Dafydd
Rhys_ yn achwyn arnynt, yn gwenieithio i'r gwyr mawr, ac yn dywedyd
celwydd ar eu can; ac yn haeru iddynt dorri cestyll, lladd a llosgi, pryd
ir oeddynt, eb ef, yn cysgu yn eu gwelyau, heb ddim mo'r fath feddwl nac
amcan ganddynt. Eithr yn amser y tywysogion, o'r gwrthwyneb, ir oedd y
Beirdd yn dystion o ddewredd a mawrfrydigrwydd eu tywysogion; ac ir
oeddynt eu hunain yn filwyr glewion. Ir oedd _Meilir Brydydd_ yn gennad
dros _Ruffydd ap Cynan_ at frenin _Lloegr_; ac ir oedd _Gwalchmai_, ei
fab, yn flaenor cad ynghyffinydd _Lloegr_ a _Chymru_; fel i maent ill dau
yn tystiolaethu yn eu cerddi. Heblaw hyn, ir oedd y tywysogion yma yn
fuddugawl yn eu rhyfeloedd a'r _Saeson_, ac ir oedd hynny yn peri i'r
Beirdd ymorchestu, i dragywyddoli eu gweithredoedd ardderchog; ac i foli
eu gwroldeb mewn achos mor glodfawr ag amddiffyn eu gwlad a'u rhyddid, yn
erbyn estron genedl, a'u difuddiasei o dreftadaeth eu hynafiaid. Ir oedd
y rhain yn ddiau yn destunau gwiw i Feirdd ganu arnynt, ac yn fodd
cymmwys i beri i'w deiliaid eu perchi a'u hanrhydeddu; canys ir oedd y
cerddi godidog yma yn cael eu datgan gyda'r delyn, mewn cyweiriau
cyfaddas, mewn gwleddau yn llys y tywysog, ac yn neuaddau y pendefigion
a'r uchelwyr. I mae _Giraldus_ yn dywedyd, fod y _Cymry_ mor ddrud a
milwraidd yn ei amser ef, ag na rusynt ymladd yn noeth ac yn ddiarfog,
a'r rhai arfog, llurugog; a'r pedydd yn erbyn y marchogion. Yn ddiau nid
oedd un modd a ellid ei ddychymmygu well, i gynnal yr yspryd dihafarch
yma yn ein hynafiaid, na chael eu moli gan y Beirdd. Ac e wyddai'r
_Saeson_ hynny yn dda ddigon; canys ar ol darostwng _Cymru_ tan eu
llywodraeth, e ddarfu iddynt ddihenyddu'r Beirdd trwy'r holl wlad. I mae
llyfrau ystatud Lloegr, yn llawn o gyfreithiau creulon i'w herbyn, ac yn
gwarafun yn gaeth iddynt ymarfer o'u hen ddefodau, o glera a chymhortha.
Yn amser _Owain Glyndwr_, i cawsant ychydig seibiant a chynhwysiad i
ganu; ond gwedi hynny, hyd ddyfodiad _Harri'r Seithfed_, ir oeddynt tan
gwmmwl. Gwedi iddo ef ddyfod i lywodraethu, ac yn amser ei fab, _Harri'r
Wythfed_, a'r frenhines _Elisabeth_, y rhai a hanoeddynt o waed Cymreig,
i cawsant gynhwysiadau i gynnal Eisteddfodau: ond ni pharhaodd hynny ond
ennyd fechan, o herwydd bonedd Cymru a ymroisant i fod yn Saeson, fel i
maent yn parhau gan mwyaf hyd y dydd heddyw.
Ond i mae rhai yn yr oes yma yn chwenychu eu cadw a'u coledd, er mwyn eu
hiaith ddigymmysg, ac er mwyn gwell gwybodaeth o foesau ac ansawdd ein
hynafiaid; ac er mwyn eu teilyngdod eu hunain; o herwydd i mae yn rhai
o'u Hawdlau a'u Cywyddau, ymadroddion mor gywraint a naturiol ag sydd ym
Mhrydyddion Groeg a Rhufain; mal i gwyr y sawl a'u deallant yn
dda.--Ymysg eraill i mae Cymdeithas y Cymmrodorion, yn Llundain, yn
rhoddi mawrbarch iddynt; ac yn chwenychu cadw cynnifer o'n hen
ysgrifenadau ag sydd heb fyned ar goll. A da i gwneynt foneddigion
Cymru, ped ymoralwent am argraffu y pethau mwyaf hynod a gwiwgof mewn
prydyddiaeth, hanesion, ac eraill hen goffadwriaethau; o herwydd i maent
beunydd yn cael eu difrodi, gan y sawl ni wyddant ddim gwell. Hyn, er
lles ein gwlad a'n iaith, yw gwir a diffuant ddamuniad
Eich gostyngedig wasanaethwr, a'ch ewyllysiwr da,