XVI.

Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwys

Trafferthion a helbul y byd,

Fy nheulu gynyddodd, a daeth

Gofynion am ’chwaneg o ŷd;

Ychwaneg o fwyd i’r rhai bach,

Ychwaneg o lafur a thraul;

Er hynny yn nghwmni fy Men,

Yr oedd imi gysur i’w gael.

Un gweryl a gawsom erioed,

A chweryl dra chwerw oedd hon;

Fe yrrwyd fy hunan a’m gwraig,

Ar tŷ’n bendramwnwgl bron.—

Yr oedd hi ’n bur hoff o roi tro

I weled ei mam tros y bryn;

Ac wrth imi ddwedyd gair croes,

Dechreuodd areithio fel hyn:—

“Cymeryd fy hel a fy nhrin,

Fy maeddu heb ddarfod na phen:

Cymeryd pob tafod a rhenc,

Fel pe bawn yn ddernyn o bren!

Ai dioddef fel carreg a raid,

Heb deimlad—na llygad—na chlyw!

O! na wnaf, os gwelwch chwi ’n dda,

Wnaf fi ddim er undyn byw!

“A chymer di fi ar fy ngair,

Fe ’i cedwais erioed hyd yn hyn;

Cyn cei di fy ngwddf tan dy droed,

Bydd dy ben yn eitha gwyn.—

Cymeryd diflasdod a chas,

A galw fy modryb yn ‘sgriw.’—

O! na wnaf, os gwelwch chwi ’n dda,

Wnaf fi ddim er undyn byw!

“Ni flasa i fynd allan o’r tŷ,

I weled fy chwaer na fy mam,

Nad codi ’r gloch fawr byddi di,

Heb reswm, nag achos, na pham.—

Wna i mono fo, Alun, er neb,

Mi gadwaf anrhydedd fy rhyw;

O! na wnaf os gwelwch chwi ’n dda,

Wnaf fi ddim er undyn byw!

“’Does gen’ ti ’r un galon o’th fewn,

A phwyll yn dy goryn ni ’roed;

A gwae fi o’r diwrnod a’r awr [_yn crio_.]

Y gwelais dy wyneb erioed!

Mi âf tros y bryn at fy nhad,

I’m hatal ’does undyn a wiw;

Ac aros yn hŵy efo ’th di—

Wnaf fi ddim—wnaf fi ddim!

Wnaf fi ddim er undyn byw!”

Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwidd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd, am

nas gwn i pa hyd. Ond tra yr oedd hi efo ’i mam a’i theulu, a minnau yn

fy helbul efo fy mhlant bach, mi genais gerdd i ysgafnhau fy nghalon, ac

fel hyn y cenais,—

Ceiriog · 第 102 / 112 题