FFARWEL ITI, GYMRU FAD.

FFARWEL iti, Gymru fad,

Mynd yr ydym tros y tonnau,

Mynd gan adael ar ein holau

Beddau mam a beddau tad;

O ffarwel, ein hanwyl wlad.

Tua ’r lan fe drodd y bâd,

Tra cyfeillion ger yr afon

Godant eu cadachau gwynion;

Rhaid dy adael, Gymru fad,

O! ffarwel, ein hanwyl wlad.

Ffarwel, ffarwel, Gymru fad,

Bydd yr heniaith a ddysgasom,

A’r alawon a ganasom

Gyda ni mewn estron wlad;

Ffarwel iti, Gymru fad.

Ceiriog · 第 78 / 112 题