CARCHAROR NAPLES.

MEWN carchar du oer y cadwynwyd fi,

Ond clywaf y bobloedd yn bloeddio—bloeddio!

A bloeddio yn nes ac uwch mae y cri,

Fod y dydd yn dod i fy nghollwng i;

A dyna fagnelau yn rhuo,—rhuo!

Mae ’r dorf yn cyhoeddi Jubil-ddydd,

Garibaldi sy ’n dyfod im’ gollwng yn rhydd.

Mi glywaf yn dod offerynau pres,

A mil o dabyrddau yn tyrddu,—tyrddu!

Cân rhyddid yw hi, a theimlaf ei gwres

Fel y del yn mlaen, yn nes ac yn nes,

Nes mae fy hen garchar yn crynnu,—crynnu!

Fe wêl fy ngolygon oleu ddydd,

Garibaldi sy ’n dyfod i’m gollwng yn rhydd.

Ein heiyrn a dawdd dan gyffyrddiad ei fys,

Fy nghydgarcharorion, O! bloeddiwn—bloeddiwn,

Mae ’r Eidal ein gwlad yn rbydd yn ddilys,

Mae y sedd yn wag yn y gormes lys,

Caneuon Itali, O! canwn,—canwn!

A diolch i’r nefoedd, daeth y dydd,

Garibaldi gyrhaeddodd, mae ’r Eidal yn rbydd.

Ceiriog · 第 76 / 112 题