I FYNY ’r mynydd dringai ef Wrth ochor Garibaldi, I weld yr haul yn dringo ’r nef— Haul Rhyddid Itali. Ond cyn i’r haul ymddangos ar ben y mynydd mawr Fe gloddiwyd bedd i Cavour, yng ngoleu gwyn y wawr.