HEN GWRWG FY NGWLAD.

HEN gwrwg fy ngwlad ar fy ysgwydd gymerwn,

Pan oeddwn yn hogyn rhwng Hafren ac Wy.

Ac yno y gleisiad ysgwyddog dryferwn

Ar hyfryd hafddyddiaut nas gwelaf byth mwy.

Pe rhwyfwn ganŵ ar y Ganges chwyddedig,

Neu donnau ’r Caveri, rhoi hynny foddhad;

Ond glannau bro Gwalia ynt fwy cysegredig,

A gwell gan fy nghalon hen gwrwg fy ngwlad.

Hen gwrwg fy ngwlad, ’rwyf fi gyda thi ’n nofio

Afonydd paradwys fy mebyd yn awr;

Hen glychau a thonau o newydd wy ’n gofio,

A glywn ar y dyfroedd pan rwyfwn i lawr.

Mi dreuliais flynyddau a’r llif yn fy erbyn,

I’m hatal rhag dyfod i gartref fy nhad;

Ond pan ddof yn ol fe fydd cant yn fy nerbyn,

I roi i’m rwyf eto yng nghwrwg fy ngwlad.

Hen gwrwg fy ngwlad, mi a’th rwyfais di ganwaith,

Hyd lynnoedd tryloewon tan goedydd a phynt;

Cymeraist fi hefyd i fynwes wen lanwaith,

Yr hon a ddisglaeriodd trwy f’ enaid i gynt.

Trwy Venice fawreddog mi fum mewn gondola,

Esgynnais y Tafwys a’r Rhein yn fy mâd;

Ond pasio hen gastell Llywelyn llyw ola,

Sydd well gan fy nghalon yng nghwrwg fy ngwlad.

Ceiriog · 第 59 / 112 题