ALAW,—_Dydd Trwy ’r Ffenestr_.
MAE rhyddid i wylan y môr gael ymgodi,
Ac hedeg i’r mynydd uchelaf ei big;
Mae rhyddid i dderyn ar greigiau ’r Eryri
Ehedeg i waered i weled y wîg;
O rhowch imi delyn, gadewch imi dalu
Croesawiad i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd,
Byddwn yn rhydd!
Yfory pan welir yr haul yn cyfodi,
Caf deimlo llawenydd na theimlais erioed;
Ac fel yr aderyn yng ngwlad yr Eryri
Yn ysgafn fy nghalon, ac ysgafn fy nhroed;
Pan welom oleuni yn gwynnu ’r ffenestri,
Rhown garol i Ryddid ar doriad y dydd;
Yfory gyda ’r wawr, byddwn ninnau ’n rhydd,
Byddwn yn rhydd!