D’WEDWCH fod fy ffroen yn uchel, Fod fy malchder yn drahaus, Fod gwamalrwydd ar fy wyneb A mursendod yn fy llais. Ond mae terfyn i anwiredd, I greulondeb a sarhad. Peidiwch byth a dwedyd hynny, Imi golli ’m serch at Gymru, Imi golli iaith fy ngwlad.