CADLEF MORGANNWG.

O “Syr Rhys ap Tomos.”

CLYWCH, clywch, hen gadlef Morgannwg,

Wele Rys a’i feirch yn y golwg,

I’w atal ymlaen

’Dyw mynydd ond maen

Adewir mewn llwch ar ei ol.

Corn y gâd ydyw miwsig yr awel,

Heddyw gwledd gydag Arthur yw rhyfel,

Yn galw ar fynydd a dôl.

Wel sefwch yn hyf gyda ’ch dreigiau,

Ac edrychwch i lawr megis creigiau,

Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd

I godi’r hen wlad yn ei hol.

Mae breichiau myrdd yn caledu,

A ffroenau y meirch yn lledu;

A berwi mae gwaed,

Gwŷr meirch a gwŷr traed,

I godi’r hen wlad yn ei hol.

Fry, fry, cyhwfan mae ’r faner,

Trywanu mae ’r cledd at ei hanner;

Yn uwch eto ’n uwch gyda ’r dreigiau,

Ac edrychwch i lawr megis creigiau,

Gawrfloeddio mae Rhyddid i ganol y gâd,

I godi ’r hen wlad yn ei hol!

Ceiriog · 第 43 / 112 题