ALAW,—_Morfa Rhuddlan_.
GWGODD y nefoedd ar achos y cyfion,
Trechodd Caethiwed fyddinoedd y Rhydd;
Methodd gweddiau fel methodd breuddwydion,
Cleddyf y gelyn a gariodd y dydd;
Cuddied y Morfa tan eira tragwyddol,
Rhewed yr eigion am byth tros y fan;
Arglwydd trugarog, O! tyred i ganol
Achos y cyfiawn a chartref y gwan.
Brenin y gelyn fydd pen ein gwladwriaeth,
Lleiddiad Caradog a gymer ei le;
Cwymped y delyn ar gwympiad Caradog,
Syrthied i’r ddaear fel syrthiodd efe.
Eto, edrychaf ar draeth y gyflafan,
Wadwyd mo Ryddid, a chablwyd mo ’r Iôr;
Gwell ydoedd marw ar Hen Forfa Rhuddlan,
Gwell ydoedd suddo i Ryddid y môr.
’DOES DIM OND EISIEU DECHREU.
ALAW,—_Y Gadlys_.
’DOES dim ond eisieu dechreu,
Mae dechreu ’n hanner gwaith,
I ddysgu pob gwybodau
A deall unrhyw iaith.
Nac ofnwch anhawsderau,
’Does un gelfyddyd dan y rhôd
Nad all y meddwl diwyd ddod,
I’w deall wedi dechreu.
“Fe hoffwn innau sengyd
Ar ben y Wyddfa draw,”
Medd hen foneddwr gwanllyd
A phastwn yn ei law.
Cychwynnodd yn y boreu,
Ac erbyn hanner dydd yr oedd
Ar ben y mynydd yn rhoi bloedd,
“’Doedd dim ond eisieu dechreu.”
I fesur y planedau
Sy’n hongian er erioed;
I ddarllen tudalennau
Y ddaear tan dy droed—
Y bachgen efo ’i lyfrau
Ymlaen yr a, ymlaen yr a
I wneuthur drwg neu wneuthur da,
’Does dim ond eisieu dechreu.
Wel, deuparth gwaith ei ddechreu,
’Does un ddihareb well;
Cychwynnwch yn y boreu,
Fe ellwch fynd ymhell.
Edrychwch rhwng y bryniau
Ffynhonnau bach sy’n llifo ’i lawr,
Ond ânt i’r môr yn genllif mawr,
’Does dim ond eisieu dechreu.