CORN Y GAD.

Meddaf y pleser o ysgrifennu geiriau am y waith gyntaf i hen ryfelgan

Gymreig o radd uchel; o leiaf nid wyf yn gwybod fod neb o’m blaen wedi

cyfansoddi cân ar yr alaw. Ni bu y gerddoriaeth ychwaith yn argraffedig.

Fe ddichon fod y dôn wedi ei chyhoeddi, ac fe ddichon fod rhai o’m

cyfeillion yn gwybod am eiriau hefyd llawer rhagorach na’m heiddo i. Fe

ddywedaf ar fyr eiriau pa fodd y daeth-um ar ei thraws. Fel yr oedd

Idris a minnau un noswaith yn hwmian hen donau i’n gilydd, fe ofynnodd ef

braidd yn sydyn, “A glywsoch chwi Ivan ap Ivan Bennoeth erioed?”

Dywedais, os darfum ei chlywed, na chlywais hi ar yr enw hwnnw. “O,”

ebai yntau, “hen dôn anwyl, nad oes ei gwell gan ein cenedl. Mae

tebygrwydd ynddi, fel yn amryw alawon eraill, i ‘Difyrrwch Gwŷr Harlech,’

ac nid oes llawer lai o nerth a mawredd ynddi.” Digwyddodd fod ei lais

yn well nag arferol, a’m ystafell innau yn fechan, ac allan â hi nes oedd

y bwrdd yn crynnu, a phlant a phobl ar yr heol yn sefyll i wrando wrth y

tŷ. Dywedai iddo ei chlywed, er yn blentyn, yn cael ei chware gan

seindorf Dolgellau.

Ceiriog · 第 32 / 112 题